Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aderyn Amser A DERYN AMSER o'i gaerog bren Uwch mudan stad y meirwon, ffair y byw, A'i ddoe, heddiw a'i yfory'n un A gan hen alarnadau'r ddynol ryw. Disgynnodd amo o'r pellter gwag A'i rith eryraidd yn cysgodi'r byd; Yng ngolau gwreichion y bellen chwil Sefydlodd yntau yn ei nythle'n glyd. Gwelodd ddiflannu o hunlle'r nos Ddi-ddechrau rhwng cysgodion llwydwe'r wawr; Cyffroi o'r crychni cynnar ar fron Tawelfor dulas y cynalffa mawr. Gwelodd briodi deulwch a gwyrth Wreiddiol y gronyn beichiog, llwm grud llaid; Gwewyr oesoedd mewn un iasol awr Wrth eni'r sylwedd syn, a'i gyntaf naid. Gwelodd o fryniau'r gyfrinach gudd Darddu'r dymhestlog afon sydd a'i lli 'N carlamu ynom, hwy'r tonnau twym A'n sguba, war ac anwar, gyda hi. Arnom bob cnawd, hwyr neu hwyrach awr O'i gainc y disgyn, synfyfyriwr doeth; A'i hirbig tyn ein llygaid ni i gyd A'n taflu i'w gynron glwth i'n blingo'n noeth. J. M. EDWARDS.