Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LITERARY INTELLIGENCE (WELSH BOOK CLUB). At Jldodaur Clwb Llyfrau Cymraeg Y mae yn fraint inni ac yn anrhydedd amom geisio dwyn ymlaen waith y diweddar Mr. Prosser Rhys. Ei gyfraniad pennaf ef i lenyddiaeth Gymraeg ddiweddar oedd Llyfrau'r Clwb ceisiwn barhau ei waith. Dywedodd wrthym fod ymhlith Aelodau'r Clwb rai a fyn gael llyfrau creadigol,-nofelau, ystraeon byrion ac ysgrifau, ac eraill a gar lyfrau ysgolheigaidd neu lyfrau ymchwil. Dilynwn ei gynllun ef o gyhoeddi llyfr creadigol a llyfr ysgolheigaidd bob yn ail, hyd y bo modd, ond ei bod hi yn llawer haws cael llyfr ymchwil na llyfr creadigol. Croesawn bob beimiadaeth gan Aelodau ar y llyfrau. Yn ei adolygiad ar Ysgrifau Dydd Mercher yn Y Cymro, Tachwedd 16, 1945, dywedodd y Dr. Iorwerth C. Peate, nad yw llawer o aelodau'r Clwb yn awyddus am gael eu gorfodi trwy eu haelodaeth i fwyta cawl eildwym." Ni chlywsom ni yr un aelod yn cwyno yn erbyn i lenorion fel yr Athro W. J. Gruffydd a Mr. Saunders Lewis gyhoeddi eu hysgrifau diweddar yn un gyfrol, oherwydd mewn cyfrol o'r fath gellir cael golwg gyfan a myfyrdod hir ar eu gwaith. Un o amcanion Mr. Prosser Rhys oedd cyhoeddi gweithiau llenorion y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel Helyntion Bywyd Hen Deiliwr a Straeon Glasynys," am nad yw'n bosibl cael gafael ar eu llyfrau ond yn sicp llyfrau ail-law. Dywedodd Mr. Gwenallt Jones wrthym mai dosbarth Cymraeg Ysgol Haf Coleg Harlech, dosbarth o wyr a gwragedd diwylliedig a graddedigion, a ofynnodd iddo ef am ddetholiad o ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel, am na wyddent ddim amdano. Ond os oes aelodau a chanddynt gwyn yn erbyn rhyw lyfr neu lyfrau, byddent mor garedig a'i danfon i Wasg Aberystwyth, ac fe wna'r Bwrdd Golygyddol ystyried y gwyn, a cheisio eu bodloni. Gadawodd Mr. Prosser Rhys un llawysgrif ar ei 61, sef teithlyfr Syr Idris Bell, Trwy Diroedd y Dwyrain," a dyma ni yn cywiro ei addewid ef i'w chyhoeddi. Gofynnodd i eraill hefyd am gyfrolau i'r Clwb, i Mr. Myrddin Lloyd am lyfr ar Lenyddiaeth Wyddeleg, i Mr. Gwenallt Jones am gasgliad o lythyrau Ceiriog a' i gylch, ond nid oes argoel y cawn y rhain am dipyn, ac i'r Athro Morris-Jones sydd ar orffen ei ddetholiad o ysgrifau'r Dr. Lewis Edwards. Bwriadwn gael llyfrau i'r Clwb gan y rhain Mr. Thomas Parry, yr Athro Ifor Williams, y Dr. Tom Richards, y Dr. R. T. Jenkins, yr Athro J. E. Daniel, Mr. Ambrose Bebb, yr Athro T. Hudson Williams, Mr. Bob Owen, Mr. Llew Owain, Kate Roberts, Mr. Garfield Hughes, Mr. Thomas Jones, y Dr. Gwenan Jones, Mr. Tecwyn Lloyd, Mr. T. E. Nicholas, y Dr. Iorwerth C. Peate, Mr. G. J. Williams, Mr. T. J. Morgan, Mr. D. H. Lewis, Mr. Stephen J. Williams, yr Athro Henry Lewis, Mr. Aneirin Talfan Davies, y Parch. Emrys James ac eraill, a hefyd gan lenorion y cyhoeddwyd eu gwaith eisoes yn Llyfrau'r Clwb, ond dylid rhoi'r cynnig cyntaf i ysgrifenwyr na chyhoeddwyd eu gwaith hyd yn hyn. Buom yn ffodus i gael dau lenor ar y Bwrdd Golygyddol, sef Mr. G. J. Williams a Mr. D. Gwenallt Jones. Diolchwn i Aelodau'r Clwb am eu caredigrwydd a'u cefnogaeth, a da gennym fod yr aelodaeth yn dal i gynyddu. Y mae un peth yn sicr, beth bynnag, a diolchwn i Mr. Prosser Rhys am hynny y fargen orau ar y farchnad heddiw vw cael llvfr v Clwb am hanner-coron. Y CYHOEDDWYR.