Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRINGWR Nos, A gwe'r niwl amdano'n dynn. Sŵn nid oedd yno na sain bref. Duwch megis amwisg dew, Ac nid da oedd. Dyn ydoedd ar uchaf ei daith; O'i hir ddringo, ni ddaeth yno Ar unwaith. Daeth fesul cam ofror cymoedd A'i fawr obaith yn rhoi hwb iddo. Dringodd oleddau llyfn y mynydd, A'r mwsogl melfed Yn gwahodd cwsg ar ei wely cain. Ar hanner ffordd. Y mae colli ffydd. Aelwyd a than sydd yn y cwm, A dyddiau diddos sydd yn y cwm. Yn y cwm mae'n siwr o decau. Dyrchafodd ei olwg. Wele! Ei drem ar y gopa draw. Cyrraedd. Efyw'r concwerwr! Ar ei binacl Egyr ei lygaid a chwyd ei olygon. Ai dall ydoedd? Ba ryw dwyll ydyw? Nos, A gwe'r niwl amdano'n dynn. Duwch megis amwisg dew, Ac nid da oedd. D Jacob Davies