Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Spif: 'R ydan ni'n rhy gyffredin i hynny. Hoi, blancedi cynnes, cynnes, hetiau silc. Prynwch. Bargeinion, heddiw. Ychydig sydd ar ol. Putain: Mae hwn yn greadur arbennig yn ol pob tebyg. Spif: Sut felly? Putain: Dyma'r Meseia, bachan, y king pin ei hun. Dyna'r hyn mae nhw'n ei ddweud. Spif: Rhaid cael cyfoeth i fod yn king pin heddiw, arian a chontacts. Mae'n amlwg nad oedd ganddo'r un. Putain: Wl, dyna fo. 'R ych chi'n cael y crancs 'ma weithiau. Mynd a dod, mae nhw. Mae'r wlad yn llawn ohonynt. Spif: Meseia! Diawch, byswn i'n disgwyl iddo rolio i fyny mewn Rolls Royce, neu Jaguar o leia'. Putain: Glywaist ti fod gan yr ken Beilat, Citron newydd? Spif: Dyna i chi foi sydd a chontacts, te. Wel, am foi yn ei swydd e, beth ydych chi'n ei ddisgwyl. Putain: 'D wyt ti ddim yn gwerthu rhyw lawer heddiw! Spif: 'R ych chi'n cael dyddie fel hyn weithiau. Dim diddorbed o gwbl mewn prynu. Ond ae'n beth od na chefais i'r un cwsmer hefyd. Mae hwn, y Meseia yma, yn tynnu eu sylw nhw. Mae siwr o fod rhyw hanes amdano. Putain: Fe gawn ni weld yn y papurau fory hwyrach. Ond dyna, fe fydd pethau yn ol i'r arfer wedyn. Paid a phryderu. Milwr: Ti, a'r cert yna. Diflanna, wnei di! (yn troi at y dorf) Nawr, nawr te, syr! Ymunwch yn y ciw, os gwelwch un dda, dyna fe. Symudwch ymlaen, a pheidiwch oedi. Emyr Edwards, editor of Drama, here contributes an original one- minute playlet, which are gaining popularity in the U.S.A. Hemingway has written one or two of them, and so has Tennessee Williams