Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

the writer of the latter had heard a Methodist preacher reflecting in public on the case, on the wicked character of the murdered man Powell, and on the even greater wickedness of William Williams and those who were allied with him. The Beirniad asks if the Methodist preacher was not William Williams of Pantycelyn. No answer was given then. Can it be given now ? Dafydd Jones, Treflynnon. GAN Y PROFF. HENRY LEWIS, M.A. YN Hanes Emynwyr Cymru Griffiths, td. 147-149, cyfeirir at Ddafydd Jones (1770­-1831), Treffynnon, a dywedir iddo gyhoeddi cyfrol o hymnau dan yr enw Dyfroedd Cysur,' yn 1810, a rhoir llinell gyntaf chwech o'r emynau o waith Dafydd Jones a fernid yn orau yn y casgliad hwn. Yn Llyfryddiaeth Gymreig Ashton, td. 250-251, rhif 765, nodir Casgliad o Bum Cant o Hymnau yn Chwe Rhan, Gan D. Jones, Gweinidog yr Efengyl yn Nhreffynnon. Treffynnon Argraffwyd ac ar werth gan E. Carnes 1810.' Dywed Ashton na chyfeirir at un o'r llyfrau hyn yn y llall, er mai'r un oedd y golygydd, ac mai'r un flwyddyn y cyhoeddwyd y ddau, a dywed hefyd fod pump o'r emynau gorau a ddewisodd Griffiths o'r Dyfroedd Cysur yn y 'Casgliad.' Ymhellach, tyb- iwn fod y Casgliad 0 Bum Cant 0 Hymnau erbyn hyn wedi myned yn brin ac y mae yr unig gopi yr ydym yn cofio am dano ym meddiant Miss Evans, Brynhyfryd, Dinas Mawddwy.' Yn ol Ashton, arwyddwyd Rhagymadrodd yr arg. cyntaf fel hyn — Dafydd Jones,' Treffynnon, Hydraf 25, 1810.' Cyhoeddwyd ail arg., gyda Hyspysiad i'r Ail Argraffiad' gan D. J., Treffynnon, Mai 25, 1821,' a thrydydd arg. Ar y td. (X) o'r olaf ceir Hyspysiad i r Ail Argraffiad,' ac ar ei ddiwedd D. J. Treffynnon, Mai 25, 1821, Y Trydydd Argraffiad, Chwefror 20, 1826.' Mae gennyf