Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nydd parhaus byth er hynny. Gymaint felly, fel y gwelom yr iaith Gymraeg erbyn heddiw mewn perigl o golli'r flaenoriaeth a fu iddi bron os nad yn hollol ddieithriad hyd yn hyn, fel yr iaith Geltaidd yr argreffid mwyaf o lyfrau ynddi yn flynyddol. Mewn amryw feysydd, yr ydym eisoes wedi colli'r flaenoriaeth yn Ian. Ymgais yw'r ychydig sylwadau dilynol i egluro sut y bu hyn. Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byd llwm iawn oedd hi ar lenyddiaeth Wyddeleg fel ar bopeth arall yn perthyn i'r hen ddiwylliant yn Iwerddon. Ac eithrio gwaith ychydig o ysgolheigion y gellir eu cyfrif ar ein bysedd, yr oedd agos y cwbl ohoni ar draddodiad llafar. Ceir yng ngorllewin Munster hyd heddiw dlodion a drysorodd ar eu cof hufen barddoniaeth gwyr fel Aodhagan 0 Rathaille ac Eoghan Ruadh 0 Suilleabhain ac eraill o gynheiliaid olaf ysgolion y beirdd yn nyddiau du y ddeunawfed ganrif. Yng Nghonnacht ac yn Ulster fe drysorwyd caneuon llai caboledig a apeliai'n fwy at glust a chalon gwerin heb hyd yn oed frithgo am goethder ysgol beirdd na defod lenyddol bendefigaidd. Yn y tair talaith lie y cadwyd yr iaith yn fyw, fe gadwyd hefyd draddodiad y cyfarwydd megis a fu yng Nghymru yn oesoedd traddodi'r Mabinogion. Fe'i cadwyd hyd heddiw yn Iwerddon, a thrwy hynny yr hen chwedlau hefyd, er na byddai'r cyfarwydd bellach yn wr wrth gerdd, na'i dal am adrodd ei chwedlau odid fwy na joi o dybaco. Cam cyntaf y deffroad newydd oedd casglu'r hen ddefnyddiau. Dyna gamp (neu yn hytrach un o gampau) y Dr. Douglas Hyde. Ni all neb fesur dylanwad ei gasgliadau o ganeuon serch a chaneuon crefyddol Connacht. Y maent yn ddolen gydiol rhwng y telynegwyr newydd a'r hen fyd, a hefyd y mae eu dylanwad yn fawr ar W. B. Yeats, A. E., ac eraill o gynheiliaid y mudiad llenyddol Eingl-Wyddeleg. A dod yn nes adref, y mae'n deg olrhain twf y delyneg Gymraeg gyfoes yn 61 cyn belled a gwaith