Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YN fy nghopi i o Works of Lewis Glyn Cothi y mae llythyr oddiwrth Tegid at Syr S. Rush Meyrick a ymddengys i mi yn damaid llyfryddol pur ddiddorol. Y llythyr gwreiddiol sydd gennyf a hwnnw wedi ei osod yng nghyfrol gyntaf y gwaith a enwyd. 'Wn i ddim a fu'r cyfrolau yn eiddo Meyrick ond bookplate Talygarn sydd arnynt, sef eiddo G. T. Clark, onite ? Y mae'r llythyr ar bedwar tudalen a'r cyfeiriad yng nghanol y 4edd ac hefyd sêl-llun llew a'r geiriau Cymru Cymro a Chymraeg hyd y gwelaf. Dyma'r cyfeiriad :­ Tegid. A dyma'r llythyr Dear Sir Samuel, Please to accept my warmest acknowledgments for your kind and complimentary letter. That my humble efforts should meet with your approbation has given me great delight as well as encouragement to go on with the work. The poems were placed in my hands without note, or comment. And after I had transcribed them all-making a glossary as I went along they were sent to Mr. Walter Davies to arrange them according to the different families. Tegid a Syr S. R. Meyrick. GAN D. R. HUGHES. Sir Samuel R. Meyrick, etc., etc., etc. Goodrich Court, near Ross, Herefordshire. Christ Church, Oxford, August 23rd, 1837.