Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(a) Evan Davies, neu Ifan Dafydd, Llan-newydd. Dyma'r cwbl a ddywedir amdano yn y Geiriadur Bywgraffyddol (J. T. Jones, 1867), I, tud. 95:— 'DAFYDD, IFAN, a breswyliai yn Llan-newydd. Y mae can dduwiol o'i eiddo ar gael, sef, Cyngor i'r rhegwr, tyngwr, a'r masweddwr" oddeutu y flwyddyn 1788.' Dyma wyneb-ddalen y gan honno:- ‘CAN Dduwiol: Neu, Gyngor i'r Rhegwr, y Tyngwr, a'r Masweddwr, Gan Ifan Dafydd, o'r Llan-Newydd. [Esaia xxxiii., 14]. Caerfyrddin, Argraphwyd gan J. Daniel, yn Heol y Brenin, 1788. Lie gellir cael ar werth, newydd ei gyfieithu i'r Gymraeg, Esponiad ar y Deg Pennod gyntaf o Genesis, o Saesonaeg yr enwog Mr. Bunyan. Pris Swllt. Elw da i'r Sawl a bryno Nifer o honynt ynghyd.' [4 tud.]. Gweler A Bibliography of Welsh Ballads (J. H. Davies), IV, tud. 187 (549); Llyfryddiaeth y Cymry (Gwilym Lleyn), tud. 637. Y mae i'r Gan 14 o benillion, a'r pennill hwn yw'r olaf:- Yn gysylltiol A Marwnad o Goffadwriaeth am Mr. John Jones, o Ferthyr-Cynnog, yn Sir Frecheiniog Mwy nag un Evan Davies. D. EUROF WALTERS. Pe gofynnai neb yn un-lle, Pwy a ganai hyn mor llawn, Crippil clwyfus, anwybodus, Ac anfedrus iawn ei ddawn; Sydd yn gorwedd er Saith mlynedd, Pur wirionedd ydyw hyn, Sy'n ceisio crippian, dan gribynian, Rhag myn'd i annwn lydan lyn.