Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE JOURNAL OF THE Welsh Bibliographical Society VOL. VI. JULY, 1945. No. 3. Williams Pantycelyn ac 'Aleluja,' 1744.1 GAN GOMER M. ROBERTS. Mynych y dywedwyd mewn adolygiadau ar lyfrau Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, Cyhoeddi'r llyfr hwn yw digwyddiad llenyddol pwysicaf y flwyddyn,' ac os bydd yr adolygydd yn fwy ehud neu feiddgar nag arfer, odid na ddywed, Dyma lyfr Cymraeg pwysicaf y ganrif Amscr yn unig sy'n penderfynu cywirdeb neu eudeb y fath ffolinebau diniwed. Cyhoeddwyd llyfryn bychan yn y flwyddyn 1744 na buasai neb o feirniaid llenyddol y dydd yn meddwl y dim Ueiaf ohono. Nid edrychai Lewis Morris arno ddwywaith, mae'n siwr, ac i'r fasged neu i'r tan yr ai'r llyfryn bychan gydag ef. Eto, ymddangosiad y llyfryn bychan hwnnw ydoedd digwyddiad llenyddol pwysicaf y ddeunawfed ganrif, oblegid ef, er distadled oedd, oedd blaenffrwyth awen William Williams o Bantycelyn. Fel y gweddai i ymddangosiad llyfryn cyn bwysiced, darfu i rywun 'ddweud amdano cyn ei ddod.' Tua chanol y flwyddyn 1744 fe gyhoeddwyd llyfryn o wasg Samuel Lewis, Caerfyrddin, Pregeth Ddiweddaf Mr. John Bunyan: a gyfjeithwyd i'r Cymro-aeg gan John Morgan, Diweddar o Blwyf Cynwil Gaio. Dyddir ei ragymadrodd 1 Papur a ddarllenwyd yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Lyfryddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, Awst, 1944.