Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Watcyn Wyn, 1844-1905: Llyfryddiaeth.1 Gan GOMER M. ROBERTS. Gresyn mawr fai cynnal Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie yn 1944 heb son gair am Watcyn Wyn. Can mlynedd i eleni y gosodwyd ei gorff i orwedd ym mynwent Gellimanwydd heb fod nepell oddi yma. Ni ofynnir i mi heddiw roddi hanes ei fywyd-gwnaed hynny flynyddoedd yn 61 gan Penar Griffiths mewn cofiant safonol. I gymdeithas lyfryddol, efallai mai'r diddordeb pennaf ynddo yw ei gynnyrch llyfryddol. Nid oes ond prin ddeugain mlynedd er pan fu farw, eto y mae'n anodd cael casgliad cyflawn o'i lyfrau, a chan i mi gymryd diddordeb yng nghynnyrch llyfryddol pawb a aned neu a fu'n byw yn yr ardal hon y mae fy nghasgliad i cyn gyflawned a chasgliad neb byw-ar a wn i. Nid yw casgliad felly heb ei ddiddor- deb chwaith, canys eisoes y mae un neu ddwy o broblemau go ddyrys ynglyn a'i lyfrau. Fel eisteddfodwr y daeth enw Watcyn Wyn gyntaf i'r amlwg. Dywed yn ei atgofion (yn 1902), Dechreuais i gystadlu mewn cyfarfodydd llenyddol, ac eisteddfodau Ileol, er ys mwy na deugain mlynedd yn ol — tua 1858, dyweder, a chrwt pedair ar ddeg oed ydoedd y pryd hynny yn gweithio yn hen lefel Corsto. Pa bryd yr ymddangosodd ei waith gyntaf mewn argraff ? Dywed fy nghyfaill, Mr. T. H. Lewis, M.A., Caerdydd, wrthyf i ddau ddernyn o'i waith ymddangos yn Gardd y Beirdd gan Ugain o Feirdd Cymru, a argraffwyd yng Nghasnewydd yn 1869. Ceir llawer o'i gynhyrchion cynnar mewn llyfrynnau yn cynnwys cyfansoddiadaa buddugol eisteddfodau Heol.3 Dywed Penar iddo gyhoeddi ei ganeuon mewn llyfryn swllt o wasg D. W. a G. Jones, ac iddynt gael eu hailargraffu yn 1873 o wasg Hughes a'i Fab, Gwrecsam.4 Eithr yr wyf yn amau hynny'n fawr, oblegid er holi a chwilio llawer iawn ni chlywais ac ni welais y 1 Papur a baratowyd ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Lyfryddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, Awst, 1944, eithr prin y cafwyd amser ond i gyfeirio at ei gynnwys. Atgofion, td. 59. Er enghraifft, Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfodau Blynyddol Carmel, Treherbert, am 1870-1874, a gyhoeddwyd gan Daniel Davies, Treherbert, yn 1875. Ceir nifer o ddarnau buddugol Watcyn Wyn yn y llyfryn hwn. 4 Cofiant, td. 36.