Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEITHIAU WILLIAM SALESBURY RHENNIR yr erthygl hon yn ddwy adran. Yn y gyntaf rhoddir sylw i un o weithiau William Salesbury, ac yna yn yr ail adran ychwanegir rhestr o'i gyfansoddiadau.1 I. Fy mwriad yn yr adran hon yw ceisio datrys rhai o'r problemau sydd ynglyn a'r llyfr a adwaenir wrth y teitl Y Diarebion Camberaec.1 Cedwir yr unig gopi printiedig y gwyddys amdano o'r llyfr hwn yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn anffodus copi amherffaith iawn ydyw ac ofer chwilio ynddo am enw'r awdur nac ychwaith am enw'r argraffydd a'r dyddiad. Ceir disgrifiad o gopi'r Amgueddfa mewn nodyn a ymddangosodd yn J.W.B.S. II, 74-76, dan y pennawd An unrecorded Welsh Book of the 16th Century." Dywedir yno ei bod yn ymddangos yn debyg mai William Sales- bury a olygodd ac a gyhoeddodd y llyfr. Bellach gellir maentumio'n ffyddiog mai Salesbury a oedd yn gyfrifol amdano, oblegid daethpwyd o hyd erbyn hyn i gopi ysgrifenedig o'r testun gyda llythyr annerch o waith Salesbury ar y dechrau. Daw ffeithiau pwysig ynglyn a'r llyfr print i'r golwg wrth astudio'r testun hwn, a chan hynny bydd rhaid rhoi sylw pur fanwl iddo. Ond cyn dod at y testun ysgrifenedig dylid dweud rhywbeth am gopi'r Amgueddfa Brydeinig. Fel y sylwyd, y mae'r copi hwn mewn cyflwr amherffaith. Collwyd dechrau a diwedd y testun yn ogystal ag ychydig ddalennau o gorff y gwaith. Dechreua gyda thudalen cyntaf casgliad o ddiarhebion yn dwyn y teitl Y Diarebion Camberaec." (Dyna paham y gelwir y llyfr wrth yr enw hwnnw). Ymestyn y diarhebion o A iv hyd D ivr3. Yn dilyn y diarhebion (D v E ii) ceir cyfres o Drioedd Ynys Brytain." Y mae rhan olaf y gyfres a'r gweddill o'r llyfr ar goll. Dangoswyd yn y nodyn y cyfeiriwyd ato uchod nad yw'r diarhebion a gynhwyswyd yn y llyfr hwn namyn argraffiad newydd o'r casgliad a gyhoeddodd William Salesbury yn Oil Synnwyr pen Kembero ygyd. Ychwanegwyd rhai diarhebion at y casgliad wrth ei argraffu o newydd a gwnaethpwyd ychydig gyfnewidiadau eraill/ ond at ei gilydd y mae'r ddau destun yn cytuno'n weddol. Ni wn o ble y cafwyd y trioedd. Ceir copi o Drioedd Ynys Prydain yn Haw William Salesbury yn Cw. 3, 55-75, 91-94, ond y mae cryn wahaniaeth rhwng hwnnw a'r gyfres brintiedig. lRhoddir eglurhad ar y byrfoddau a ddefnyddir yn yr erthygl hon ar y tud. olaf. *Cofnodir y llyfr yn STC. dan enw Gruffyd (sic) Hiraethog. aCollwyd A vi-A viii. 4Cyfeirir at rai o'r cyfnewidiadau hyn yn JWBS. II, 74-76.