Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Journal OF THE Welsh Bibliographical Society VOL. IX JULY, 1958 No. 1. GWASG DDIRGEL YR OGOF YN RHIWLEDYN YMGAIS yw'r erthygl hon i ailadrodd hen stori, stori y datguddiwyd ei manylion eisoes gan ysgolheigion megis yr Athro G. J. Williams, Mr. Emyr Gwynne Jones, Mr. Geraint Bowen a Dr. D. M. Rogers1 yr unig bwnc y cynigir gwybodaeth newydd arno yw union leoliad yr ogof a'r wasg. Osgoir yn llwyr broblem ddyrys awduraeth Y drych Cristianogawl, gan y disgwylir trafodaeth gyflawn ar y pwynt gan Dr. T. J. Morgan yn ei adargraffiad o'r llyfr. I: Y CEFNDIR YN LLOEGR. Caeth iawn oedd y wasg argraffu yn Lloegr a Chymru yng nghyfnod Elisabeth I.2 Drwy siarter Cwmni Cyhoeddwyr Llundain, a ganiatawyd gan Phylip a Mary ar 4 Mai 1557 ac a gadarnhawyd gan Elisabeth ar 10 Tachwedd 1559, cyfyngwyd pob gweithgarwch ynglyn a'r fasnach lyfrau i aelodau o'r cwmni hwnnw yn unig. Yn haf 1559, fel rhan o'r cynllun i ddiwygio'r eglwys, cyhoeddwyd yr Injunctions given by the Queen's Majesty, ac ynddynt gorch- mynnwyd yn gaeth that no manner of person shall print any manner of boke or paper, of what sort, nature, or in what language soeuer it be, excepte the same be first licenced by her maiestie by expresse wordes in writynge, or by .vi. of her priuy counsel, or be perused and licensed by the archbysshops of Cantorbury and yorke, the bishop of London, the chauncelours of both vnyuersities, the bishop beyng ordinary, and the Archdeacon also of the place where any suche shalbe printed, or by two of them, wherof the ordinary of the place to be alwaies one.3 Ymhen rhyw saith mlynedd wedyn, ar 29 Mehefin 1566, bu raid i 1 Ceir crynodeb hwylus o'r holl hanes yn erthygl D. M. Rogers, Popishe Thackwell and early Catholic printing in Wales', Biographical Studies, II (1953-4), 37-54. Gweler y rhagymadrodd i A dictionary of printers and booksellers 1557-1640 gol. R. B. McKerrow (Llundain, 1910). a A Transcript of the Registers of the Company of Stationers of London, ed. E. Arber (Llundain a Birmingham, 1875-94), I, xxxviii.