Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Journal OF THE Welsh Bibliographical Society VOL. IX DECEMBER, 1962 No. 3. LLYFRGELL COLEG SANT FFRANCIS XAVIER, Y CWM, LLANRHYDDOL I RHAGYMADRODD (i) HANES (1605-1678) PLWYF AR Y FFIN rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd ydyw Llanrhyddol.1 Yno, mewn annedd o'r enw Y Cwm, yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg, y trigai William Griffiths. Troes hwnnw ei dy yn ymguddfan i offeiriad sef Richard Griffiths alias Griffin. Hanai'r Jesiwit hwn o esgobaeth Bangor. Ganed ef yn 1576, addysg- wyd ef yn Rhufain a dychwelodd i'r wlad hon rywbryd wedi 1594. Bu farw yn Llundain yn 1608. Y mae tystiolaeth bendant ei fod yn gaplan i deulu William Griffiths yn y llecyn diarffordd hwn rhwng dwy esgobaeth yn 1605. Buasai Robert Jones (1564-1615) o'r Waun, sylfaenydd Cenhad- aeth Seisnig y Jesiwitiaid, a William Powell (1563-1610) o esgobaeth Llanelwy, yn cenhadu yn y cyffiniau. Meddai un adroddiad3: "In a place called Darren in the confines of the Counties of Hereford and Monmouth, Mass is weekly said by two Jesuits, viz. Jones (Robert) and Powell, with great resort unto them of persons of good qualities." Yn fuan wedi 1605 cawn John Salisbury (1575-1625) o Rug, Sir Feirionnydd, yn dirgel genhadu yno gan drigo yng Nghastell Rhaglan, a gwasanaethu yn gaplan i Frances Somerset, chwaer pumed Marcwis Caerwrangon a gwraig William Morgan o Lantar- nam.4 1 Ordnance Survey, Popular Edit. 1 ins. one mile, Sheet 91, Abergavenny, C. 13. ø Foley, Records S. J. VII, t 321 IV, t 463. Ibid, VI, Supplement Volume, t 154. 4 Ibid, VII, t 408, 625; Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, VIII, 4, t 387.