Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU SAMUEL PEPYS UN AGWEDD ddiddorol ar feddwl ac ysgolheictod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ar bymtheg yw twf llyfrgelloedd teuluol pwysig. Yn Lloegr gwyddom i lyfrgell Dr. John Dee gael sylw'r Frenhines Elisabeth ei hun, ac yr oedd casgliadau enwog eraill yn yr un cyfnod. Etifeddodd yr Arglwydd Lumley lyfrau ei dad-yng-nghyfraith, yr Iarll Arundel, gwr y bu Humphrey Lhuyd yn was iddo, fel cnewyllyn i'w lyfrgell enwog ef ei hun, ac erbyn amser John Selden bu cynnydd mawr ym maint llyfrgelloedd personol. Un yn unig o'r llyfrgelloedd preifat hyn a gadwyd yn ddigyfnewid hyd heddiw, tair mil cyfrol Samuel Pepys sy'n awr yng ngholeg Magdalene yng Nghaergrawnt. Ym mis Gorffennaf, 1666, yr aeth Pepys ati i grynhoi a threfnu ei lyfrau gwasgaredig, ac yn y cypyrddau a wnaed iddynt y pryd hwnnw gan Sympson the joyner y mae'r llyfrau hyd heddiw, a'r un drefn a dosbarth sydd arnynt, a'r un rhwymiad. Gwir y dywedwyd y gellir dysgu bron cymaint am Pepys a diwyll- iant cyfnod yr Adferiad o lyfrgell gyflawn fel hon ag o'r dyddiadur enwog, a gorchwyl difyr a dadlennol yw mynd yn frysiog drwy'r catalog llawysgrif a luniwyd at wasanaeth Pepys ei hun1 a sylwi ar ddiddordebau'r casglydd. Yn naturiol yr oedd tueddiadau meddyhol ei oes ef ei hun yn cael ei sylw. Gwyddom o'r dyddiadur iddo brynu gweithiau Hobbes, which is now mightily called for,' ym mis Mehefin, 1661, a dengys y catalog iddo brynu Harrington's Works yn ogystal. Yr oedd gwyddonwyr yr oes ganddo, hefyd, gweithiau Bacon, a Boyle, a Dr. Wilkins, a haneswyr o bob rhyw-Polydorus Vergilius; Leyland's Antiquities 1545; Selden; Stillingfleet; Wotton's Remains; Camden's Remains; Bp. Lloyd's Original Church Government; Cave, Primitive Christianity; Mr. Aubrey's Miscellanys; Tanner, Notitia Monastica Historiae Britannicae Defensio 1573 Jo. Priseus; Selden; Bossuet; Galfridus Monemutensis, heb s6n am weithiau Gildas, a Nennius, a Gerallt Gymro, y Marganenses A nnales, ac eraill a gedwir mewn casgliadau cynhwysfawr fel Anglica, Norman- nica, Hibernica, Cambrica, A Veteribus Scripta Plerique nunc primum lucem editi ex Bibliotheca GVILIELMI CAMDENI (1653) neu'r Historiae Anglicanae Scriptores XX, casgliad enwog Thomas Gale. Taflai Pepys ei rwyd ymhellach na digwyddiadau ei oes ei hun. Casglodd weithiau'r beirdd-Herbert 's Divine Poems Spencer (sic) Ben Johnson (sic) Edition 1692; Don's Poems; Virgil English'd by Dryden; Lucan Englished by May-a beirdd Ffrainc, Racine, Moliere, Boileau a La Fontaine yn eu plith. Ymddiddorai hefyd yn y gyfraith, ac y mae gweithiau Coke, a Judge Jenkin's Work, a'r Abstract of the Tryals upon ye 2 Plotts (Popish and Presbyterian) in and since 1678 ymhlith y llyfrau. Dengys y dyddiadur hefyd mor fanwl y craffai ar bregeth, ac enwir Five different Styles of Modern Preaching Compared 1656 yn y catalog. Hawdd y gellid dangos 1 Yr unig gatalog, nes cyhoeddi'r un safonol cyn bo hir.