Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEITHGARWCH EMYNYDDOL EBEN FARDD FEL BARDD yr awdlau aruchel, bardd "y goron deirplyg", chwedl Nicander, y meddyliwn yn bennaf heddiw am Eben Fardd, ond fel cynifer o feirdd y ganrif ddiwethaf, roedd ef hefyd yn emynwr eithaf cynhyrchiol a cheir canu o hyd ar rai o'i emynau yn ein capeli. Er i Eben gael ei fagu'n Fethodist selog a'i enwi ar 61 y Parch. Ebenezer Morris (1769-1825), cefnodd ar grefydd yn nyddiau helbulus ei ieuenctid, ac yna, ar 61 ymsefydlu yng Nghlynnog Fawr yn Arfon, bu'n addoli am rai blynyddoedd yn Eglwys Beuno Sant. Wedyn, yn 1839, troes yn 61 at y Methodistiaid ac arhosodd gyda'i hen enwad hyd y diwedd. Yn wir, yn 61 a ddywedodd Eben ei hun, ef a symbylodd y cynllun i adeiladu capel yng Nghlynnog, sef Ebenezer, neu'r Capel Newydd, fel y gelwid ef. Ef oedd ysgrifen- nydd y pwyllgor adeiladu a chynhaliwyd y rhan fwyaf o'r cyfarfod- ydd yn ei dy ef.1 Cyhoeddwyd Hymnau Eben Fardd yn 1862 yn 61 pob tebyg, ond dengys ei ohebiaeth a Samuel Prideaux Tregelles (1813-1875), yr ysgolhaig Beiblaidd, ac loan ap Hu Feddyg (John Pughe, 1815- 1874), fod y bardd yn paratoi i gyhoeddi cyfrol o emynau tua 1844. Yr oedd y gyfrol i gynnwys 84 o emynau, ac fe'u casglwyd ynghyd ar gais loan ap Hu Feddyg. Yr oedd loan a Tregelles yn addoli gyda Brodyr Plymouth a chredai loan y byddai'r Brodyr yn talu costau'r argraffu. Ymddengys fod Tregelles i ddwyn y llyfr i'w sylw a gofyn am eu cefnogaeth. Yr oedd y gyfrol yn barod ar gyfer y wasg erbyn mis Tachwedd, 1844, ond aeth Tregelles i Rufain yn y mis hwnnw, rhoddwyd y casgliad o'r neilltu, ac anghofiwyd amdano Er hyn, cafodd llawer o emynau Eben Fardd weld golau dydd cyn 1862. Yn 1843, cyhoeddwyd pedwar o Hymnau Cynhav.afya. dudalen printiedig, ac yn yr un flwyddyn ailgydiodd y bardd yn ei ohebiaeth a Robert Phillips2 ynghylch ei lyfr, Casgliad o Salmau a Hymnau, addas addoliad cyhoeddus, ynghyd a llawer o rai newyddion. Dengys llythyrau Phillips at Eben yn 1843 iddo gael ei help wrth baratoi'r Casgliad. Cynhwyswyd ynddo un o gerddi Eben (ni ellir ei galw yn emyn), "Dadl y Nef heblaw rhai emynau y tynnodd sylw Phillips atynt. Y deunawfed emyn yn y llyfr yw 'Rwy'n wael fy ngwedd a du fy lliw," a newidiwyd wedyn i "Os ydywf wael fy llun a'm lliw Awgrymodd Phillips lawer o welliannau yn Dadl y Nef a bu'n rhaid i Eben ei chaboli gryn dipyn cyn iddi ymddangos yn y Casgliad (tt. 201-202), a gyhoeddwyd tua chanol 1843. Cyhoeddwyd y gerdd hefyd yn Y Drysorfa, 1843, t. 230, wedi'i newid ychydig eto. Yn 1859, cafwyd argraffiad arall o'r Casgliad o Salmau a Hymnau. 1 Ceir cofnodion y pwyllgor yn llyfr William Hobley, Hanes Methodist- iaeth Arfon. Dosbarth Clvnnog, 77-81. 2 Bu Phillips yn rheithor Llanycil rhwng 1819 a 1826, pryd y penodwyd ef yn ficer Betws-yn-Rhos; gw. D. R. Thomas, The History of the Diocese of St. Asaph, III, 125, 197.