Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARGRAFFWYR CYMREIG Y GORORAU ANERCHIAD A DRADDODWYD YNG NGHYFARFOD Y GYMDEITHAS YN Y BARRI, AWST 8, 1968. Testun ymchwil diddorol fyddai olrhain y dylanwad a gafwyd ar ein bywyd cenedlaethol Cymreig gan sefydliadau a ddechreuodd eu gweithgarwch y tu hwnt i ffiniau tir Cymru ei hun, megis Coleg yr Iesu, Rhydychen, Cymdeithas y Cymmrodorion a'r Gwynedd- igion. Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun, o'r braidd y mae arnom angen esiampl well na Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Ystrvdeb bellach yw dweud na fyddai'r Eisteddfod, na'r Gym- deithas Lyfryddol, na dim o'n sefydliadau Cymraeg yn bod onibai am ddylanwad diwylliannol a chymdeithasegol y wasg argraffu ond prin y sylweddolwn ba faint o gynnyrch Cymraeg y gweisg cynnar a baratowyd y tu allan i ffiniau Cymru ei hun. Bwriadaf, felly, geisio bwrw cipdrem brysiog ar gynnyrch y gweisg Cymraeg a sefydlwyd yng Nghaer, yn yr Amwythig ac yn Henffordd ac a fu'n dra gweithgar o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd at chwarter cyntaf y ddeunawfed ganrif. Ni honnaf gynnig yn yr ymdriniaeth hon ddim sydd yn newydd na syfrdanol, ac y mae nifer o awduron erthyglau i Gylchgrawn y Gymdeithas Lyfrydd- ol eisoes wedi trafod amryw o'r agweddau posibl ar y testun. Mae arnaf ddyled drom i'r gwaith casglu a rhestru a wnaed gan Mr. Morus Parry, Caer, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn meddu ar gasgliad helaeth, ond nid cyflawn, a wnaeth ef o lyfrau Cymraeg a argraffwyd yng Nghaer o 1713 ymlaen, ac o lyfrau Saesneg yn ymwneud â Chymru. Gwnaed gwaith gorchestol eto gan Mr. Ll. C. Lloyd ar yr argraffwyr Cymreig yn Swydd Salop hyd y flwyddyn 1800, a chyhoeddwyd ei ymchwil manwl ef i achau a hanes proffes- iynol yr argraffwyr.1 Ni all unrhyw ymdriniaeth â llyfrau Cymraeg y ddeunawfed ganrif beidio i chyffwrdd A Chaer neu'r Amwythig, boed y teitlau mor amrywiol eu naws a'r Almanaciau cyntaf a Phatrwm y Gwir Gristion Thomas a Kempis, neu faledi athrodus Twm o'r Nant a Salmau Can Edmwnd Prys. O'r dwyfol i'r dychanus, ac o'r sathredig i'r eneiniedig, yr oedd gan argraffwyr Cymreig y gororau le hollol arbennig yn y gwaith o ddarparu blaenffrwyth cynhaeaf toreithiog y wasg argraffu Gymraeg. Dyma'r math o gwestiwn a gyfyd wrth loffa'r maes diddorol hwn. Pam y darfu i'r gwaith Cymraeg hwn ymsefydlu yn y lie cyntaf y tu allan i Gymru ? Pa fath o hyfforddiant a gawsai cysodwyr y wasg mewn gosod a chywiro teip yn Gymraeg ? At ei gilydd, beth yw safon cywirdeb y gosod a gwedd allanol y cynnyrch ? 0 ble y 1 Transactions of the Shropshire Archaeological and Nat. Hist. Soc., 1935-36. Rhan I, tt. 65-142 Rhan II, tt. 145-200. (gweler hefyd yr adolygiad yng Nghylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol, J.W.B.S., Cyf. IV, Gorffennaf 1936, tt. 327-336).