Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nifer o lyfrau crefyddol i'r Gymraeg a'u cyhoeddi, a hyrwyddo'r gwaith o ddysgu pobl ei ofal i ddarllen.4 Ac yn 1700, ymddangosodd Arweiniwr Cartrefol i'r lawn a'r Buddiol Dderbyniad o Swpper yr Arglwydd, wedi ei argraffu yn Llundain, a Cwnffwrdd i'r Gwan Gristion, wedi ei argraffu yn Rhydychen. Cyfieithiad o waith Theophilus Dorrington ydyw yr Arweiniwr Cartrefol, llyfryn syl- weddol o 86 tudalen, ac y mae amryw o gopiau ohono ar gael hyd heddiw. Ac fel y dywedwyd, fersiwn Gymraeg o'i bregeth ef ei hun ydyw Cwnffwrdd i'r Gwan Gristion.5 Yn wir, cyhoeddwyd y bregeth yn Saesneg hefyd yn 1700, a'i hargraffu yn yr un wasg yn Rhyd- ychen. Dyma'r teitl THE I BRUISED REED, I OR A SERMON I Preach'd at the Cathedral Church of I St. ASAPH, I FOR THE I Support of weak Christians, 11 By D. MAURICE D.D. sometime Chap- lain in New Colledge, OXON. 11 [Ilun] OXFORD, Printed at the THEATER, 1700. Y mae'n cynnwys 32 tudalen, a gellir nodi fod ansawdd y papur a safon yr argraffwaith yn rhagori cryn dipyn ar yr hyn a geir yn y llyfr Cymraeg. Fel awdur Cymraeg, ni ellir gosod Dafydd Maurice yn yr un dosbarth a rhai o'i gyfoeswyr ieuangach, megis Ellis Wynne, Edward Samuel a John Morgan. Er hynny, y mae'n gryn feistr ar yr iaith, ac, ar y cyfan, yn ei hysgrifennu'n llithrig ac effeithiol. Cyfieithu ei waith ei hun a wna ynCwnffwrdd i'r Gwan Gristion, ac felly, gellid disgwyl iddo ymatal rhag dilyn y gwreiddiol yn rhy llythrennol. Yn wir, y mae ganddo rai paragraffau nas ceir yn Saesneg, ond gan amlaf, glynu wrth y gwreiddiol a wna. Dyma, er enghraifft, agoriad y bregeth yn Saesneg ac yn Gymraeg If the Scope of this Chapter be seriously consider'd, it may be of use to Preachers, and Hearers, (a division, which contains all the Members of the Church universal, the whole Christian World) for, in the Pharisees here, all Hearers may see what is to be avoided, and, in Christ, all Preachers may see what is to be practis'd, by what is culpable in the one, and commendable in the other. 4 Gweler 'Llythyr at fy Mhlwyfolion' a argreffir ar ddiwedd yr ysgtif hon 5 Y mae Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry (1869), 268, yn rho Cwnffwrdd i'r Gwan Gristion o dan y flwyddyn 1702, er ei fod yn dweud 'Dyna fel y cofrestra Moses Williams ef. Hefyd, y mae'n camddeall Moses Williams ac yn awgrymu mai Theophilus Dorrington oedd awdur y gwreiddiol. Ail-adroddir y camgymeriadau hyn yn llyfr Charles Asthon, Hanes Llenyddi iaeth Cymreig o 1650 O.C. hyd 1850, tt. 87-8, ac yn Y Bywgraffiadur a'r DWB a'r Dictionary of Welsh Biography. Yn y Bywgraffiadur a'r DWB hefyd, rhoddir Promised yn lie Bruised yn nheitl y bregeth Saesneg, a no mangre claddu Dafydd Maurice yn anghywir yn y Bywgraffiadur.