Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFIEITHIADAU I'R GYMRAEG 0 IEITHOEDD ESTRON AC EITHRIO SAESNEG Fe wyr darllenwyr y Journal of the Welsh Bibliographical Society am lyfryddiaeth J. J. Jones "A Bibliography of Translations from Foreign Languages (other than English) up to 1928" ac am atodiadau Idwal Lewis yn yr un cylchgrawn.1 Dyma lyfryddiaeth o gyfieith- iadau tebyg o'r flwyddyn 1929 ymlaen, wedi'i hymrannu'n ddau ddosbarth fe'u galwn hwynt yn A a B. Perthyn i Ddosbarth A y casgliadau cyffredinol o gyfieithiadau megis Cerddi Estron (E. T. Griffiths) a pherthyn i Ddosbarth B y cyfieithiadau megis Cerddi o'r Lladin (J. Gwyn Griffiths) wedi'u trefnu yn 61 iaith y gwreiddiol. O dan bob iaith dilynir y casgliadau o gyfieithiadau gan awduron unigol yn nhrefn yr wyddor. Er mai o'r iaith Saesneg y troswyd nifer o'r eitemau, fe'u rhestrwyd o dan yr ieithoedd gwreiddiol. Cynnwys y llyfryddiaeth nofelau, storiau byrion, barddoniaeth, dramau a thestunau. Ni chynhwysir cyfieithiadau o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, na throsiadau o emynau. Ni chynhwysir hefyd ond ychydig o'r nifer mawr o ganeuon a gyfieithwyd at bwrpas cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gellir dod o hyd i'r rhain yn Bibliotheca Celtica o dan y pennawd "Music". Fe welir yr amrywiaeth mawr o gyfieithiadau er y flwyddyn 1928, ac ysgolheigion fel yr Athro T. Hudson-Williams, yr Athro Emrys Evans, Evan T. Griffiths ac eraill, yn bencampwyr ar y gwaith o drosi. DOSBARTH A CASGLIADAU CYFFREDINOL CULE, Cyril P. Gwaith mydryddol. Bala A. J. Chapple (Gwasg y Bala), [1963]. CYNNWYS How to write a sonnet.-Sut i sgrifennu sonned (Efelychiad o waith Lope de Vega).-Y Corn (o Ffrangeg Alfred de Vigny).-At Ffranco, Cadfridog Ysbeilwyr (J. A. Balbontin).— Man cyfarfod yn y nef (Ramon de Campoamor).­-Y ddwy briodferch (Ramon de Campoamor). — "Gwirionedd" Traddodiadau (Ramon de Campoamor).-Penillion telyn (coplas).-Sganarelle neu Y cwcwald dychmygol. Comedi mewn un act gan Moliere. 1 Journal of the Welsh Bibliographical Society, IV (July 1935 271-303; V, 4 (January 1940) 231-6 VI, 5 (July 1948) 278-82.