Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wrth droi pwnc yr erthygl hon yn fy meddwl ddarllenais y stori ddramatig a adroddir yn yr Efengylau* am wraig yn eneinio pen Iesu Grist ag ennaint gwerthfawr, gweithred a enynnodd wg ei ddisgyblion. Trawyd fi gan nifer y gwerthoedd gwahanol a ddaw i'r golwg ynddi, a'r modd y try'r ddrama ar y gwrthdaro rhyngddynt. Er bod gosod- iad y ddrama yn ddwyreiniol y mae'n hollol ddealladwy i bawb oblegid y mae'r gwerthoedd a ddaw i'r golwg ynddi yn rhai cyffredin a gwelir y gwrthdaro rhyngddynt mewn amgylchiadau sy'n gyfarwydd inni bob dydd. Tybiais y gallai'r ymdriniaeth o'r syniad o werth fod yn fwy byw petawn yn ei drafod mewn perthynas â digwyddiad diriaethol fel hwn, ac y gwelid ein bod yn ystyried pethau sy'n lly- wodraethu ein hymwneud â'n gilydd bob dydd o'n hoes. Try'r ddrama, fel y dywedwyd eisoes, o gwmpas gwrthdaro rhwng gwahanol werthoedd. Dyna werth yr ennaint Beth ydoedd yng ngolwg yr amrywiol bersonau a gymerai ran yn y ddrama ? I'r disgyblion rhywbeth ydoedd y gellid ei gyfnewid am swm o arian a'r swm o arian yn beth y gellid ei gyfnewid drachefn am nwyddau a'r nwyddau drachefn o werth i ddiwallu angen tlodion, a'r tlodion eu hunain yn wrthrychau oedd yn werth sylw tosturiol y disgyblion. Tybia'r frawddeg fer — "Oblegid fe allasid gwerthu yr ennaint hwn am lawer, a'i roddi i'r tlodion dri math o werth, sef gwerth economaidd, gwerth bywydegol a gwerth moesol :-gwerth economaidd yr ennaint fel gwrthrych y gellid ei gyfnewid am arian ac am nwyddau gwerth y nwyddau fel moddion i gynnal bywyd a gwerth personol y tlodion fel bodau a haeddai ystyriaeth a chyn- horthwy pobl a feddai wybodaeth am eu hangen a moddion i'w cynorthwyo. A thybiai'r disgyblion fod eu hosgo meddwl hwy eu hunain tuag at yr iawn ddefnydd o'r ennaint yn meddu gwerth moesol. Gwerth pur wahanol *Matt. xxvi, 6-13, Marc xiv, 3-9, loan xii, 1-8. Y SYNIAD O WERTH.