Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddelfryd wedi ei droi'n ffaith, ni fyddai galw ond am syllu boddhaus. Yn wyneb amheuaeth ynghylch gwerth y ffaith (yr eneinio), gallai'r ysgogiad droi'n gymeradwyaeth. Dug y disgyblion ddelfryd gwahanol (ymgeleddu'r tlodion) i berthynas â'r sefyllfa, a ffrwyth y gwrthdaro oedd eu dat- ganiad y dylid gwerthu'r ennaint a'i roddi i'r tlodion. Cododd eu datganiad wrthdaro ym meddwl yr Iesu rhwng delfryd y wraig yn yr eneinio a'r amgylchiadau, ond yn groes i'r disgyblion, dywedodd mai gweithred y wraig oedd yn dda ac mai felly y dylai pethau fod. Y delfryd yn mynegi ei hawl, yn gogwyddo at fynnu ei ffordd, yw'r ymwybyddiaeth o dylai fod." Ni olygai yn achos y disgyblion y dylent hwy ymgeleddu'r tlodion. Nid yw pob barn y dylai rhywbeth fod yn golygu y dylai'r dyn sy'n pasio'r farn hon ei ddwyn i fod. Er enghraifft fe all dyn farnu y dylai'r byd neu ddynion fod yn wahanol i'r hyn ydynt heb deimlo'n rhwymedig i'w creu o'r newydd. Hwyrach y golyga osgo i wneud hynny ei hun, pe gallai, neu i beri i arall wneuthur hynny. Rhaid gwahaniaethu rhwng y farn y dylai hyn fod," y dylai A.B. wneud hyn," ac y dylwn i wneud hyn," Petai'r wraig yn yr amgylch- iadau wedi teimlo y dylai'r tlodion gael eu hymgeleddu, hwyrach y teimlai mai arni hi y disgynnai'r ddyletswydd. Fe all yr ymdeimlad y dylai rhywbeth fod godi ym meddwl dyn, pryd bynnag y gwerthfawroga, ddrychfeddwl nad yw ffeithiau'r byd mewn cytgord ag ef. Y mae ein haddysg a'n profiadau yn awgrymu Uu o ddrychfeddyliau econom- aidd, artistig, moesol, crefyddol, gwleidyddol, a gwyddonol, sy'n apelio atom, a chyferbyniwn hwy â ffeithiau bod ynom ac o'n cwmpas, a chynnwys y gwerthfawrogi ogwydd i gondemnio yr hyn sy'n anghyson â hwy ynghyda thuedd i'n newid ein hunain a phawb a phopeth yn unol â'u safon. Yn arbennig ysgogir ni gan ein delfrydau i newid ein gallu gwerthfawrogol, a gallu gwerthfawrogol ein gilydd. (cym. §V). Dyma'r newid mwyaf a all ddigwydd yn hanes neb, a'r newid hwn yw prif ffrwyth addysg a phrofiad. Oblegid yn ôl ystyr a gwerth gwrthrychau iddo yr ymetyb dyn i bopeth yn ei fyd. DAVID PHILLIPS.