Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYLWADAU AR BROBLEM NATUR HUNAN. Nid oes dim a ymddengys yn sicrach i'r dyn ar y stryd na'i fod ef ei hun yn real. Ac wrth ef ei hun golyga yr annelwig rywbeth sydd (τ) mewn perthynas agos iawn â gwrthrych y cyfeiria ato fel 'fy nghorff,' (2) yn aros yr un o brofiad i brofiad, (3) yn cyfnewid yn ystod gyrfa bywyd drwy dyfu a datblygu,' (4) yn oddrych i'r holl gyflyrau yr awn drwyddynt, (5) yn gyfrifol am ei benderfyniadau a'i ddewisiadau ac, yn gyffredinol, ei holl weithrediadau ei hun, ac (6) yn meddu'r briodoledd anniffiniol honno a bair ein bod yn cyfeirio ato, nid yn y trydydd person, felybyddwnyn cyfeirio at bethau eraill, ond yn y person cyntaf fel Myfi neu 'Fy Hunan.' Ar yr wyneb, felly, y mae hunan yn rhywbeth real a phendant iawn ym mhrofiad y dyn cyffredin. Ond fe ddadleuir gan y Radicaliaid diweddaraf, megis y Positifiaid Rhesymegol nad oes gennym rithyn o dystiolaeth empeiraidd dros gredu bod y fath beth â hunan, a bod gosodiadau yn ei gylch o ganlyniad yn ddiystyr. Yn ôl yr ysgol hon yr unig dystiolaeth empeiraidd safadwy ydyw tystiolaeth synwyriadau. Lle y bo hi'n bosibl gwireddu gosodiadau yn nhermau synwyriadau y maent yn dechnegol synhwyrol a byddant yn wir neu'n au yn ôl eu cyfatebiaeth i'r ffeithiau. Eithr Ue na bo gwireddu yn nhermau syn- wyriadau yn bosibl bydd y gosodiadau yn dechnegol ddi- synnwyr. Ni allant fod hyd yn oed yn au. Rhaid i osod- iadau am wrthrychau materol, gan hynny, fod yn drosadwy i osodiadau am gynhwysau synhwyrus os ydynt i'w cyfrif yn synhwyrol. A'r un modd rhaid i osodiadau am hunan fod yn drosadwy i osodiadau am brofiadau synhwyrus. Er mai athrawiaeth ieithegol yw hon ynghylch natur gosodiadau ac amodau synwyroldeb a'i bod yn arfer gan y Positifiaid ddadlau yn erbyn siarad yn nhermau pethau neu fodau yn hytrach nag yn nhermau gosodiadau, eto cyfeddyf rhai ohonynt (e.e. Ayer) fod yr athrawiaeth yn eu rhwymo i gredu mai gwneuthureb o brofiadau synhwyrus ydyw'r hunan."