Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn awr credaf fod llawer o wir yn yr athrawiaeth hon er na chytunaf â'r Positifiaid mai gwneuthureb o elfennau synhwyrus yn unig yw'r hunan. Credaf ei bod yn wneuth- ureb lawer mwy cymhleth na hynny. Y mae unoliaeth ymwybod yn elfen bwysig iawn yn ei chyfansoddiad. Eithr collir golwg ar hynny yn llwyr wrth ei helfennu'n syml yn synwyriadau. Cytunaf mai synwyriadau (a phrofiadau uniongyrchol eraill y caf gyfeirio atynt) ydyw deunydd hunan. Canys hwynt-hwy yw deunydd profiad a phrofiadau yw deunydd hunan. Eithr unoliaeth profiad yn hytrach na'r profiad hwn neu'r profiad arall ydyw'r elfen bwysicaf o lawer yn y wneuthureb. Ceisiaf ddangos hyn. Yr wyf am bwysleisio hefyd beth na phwysleisir mohono ddigon, yn fy marn i, gan y Positifiaid,-er na allaf weld nad yw'n ymhlyg yn eu hathrawiaeth, — sef, fod hunan' hunan-ymwybyddiaeth gyffredin — ystyr ar-yr-wyneb y symbol Myfi' — yn real os dadansoddir ef yn gywir ac nad torri geiriau disynnwyr a wnawn mewn cysylltiadau ym- arferol wrth sôn am Fy Hunan neu Myfi. Dechreuwn drwy gynnig dadansoddiad bras o'r meddwl.' Ceir ynddo, i'm tyb i, bedair prif elfen ymwybod, ymateb, tuedd i ddal gafael yn ei orffennol a thuedd i fagu dulliau sefydlog o ymateb ac ymddwyn. Gellid galw'r ddwy olaf wrth yr enwau 'elfen gadwol ac elfen dueddiadol yn ôl fel y byddont. Yn awr y mae'r ddwy elfen gyntaf, sef ymwybod ac ymateb, yn bresennol ym mhroses profiad a chan hynny'n uniongyrchol brofadwy, tra nad yw'r ddwy olaf ond pwerau a briodolir i'r meddwl er mwyn medru esbonio pethau fel cofio'r gorffennol a datblygu arferion mewn ymateb ac ymddwyn. Tuedda holl gasgliadau ymddygiadaeth a nerfoleg ddiweddar i awgrymu yr amodir bodolaeth yr holl elfennau hyn gan ddigwyddiadau na wyddom ond ychydig amdanynt yng nghyfansoddiad y gyfundrefn nerfol ganol. Ac ni phrawf ymarsylliad fod unrhyw beth arall, megis gweithredydd goddrychol, seicig ac annibynnol ar y corff, yn gyfrifol amdanynt. Canys nid oes yr un warant dros gredu fod y fath beth. Cawn geisio rhoi rhesymau dros y gosodiadau hyn yn nes ymlaen..