Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid yw'n ormod dywedyd i waith Colegau'r Brifysgol baratoi'r awyrgylch a fu'n galw'n hir am ryw gymdeithas i alluogi athronwyr Cymru i gwrdd â'i gilydd a thrafod eu hoff bynciau. Yn ystod cyfnod gweddol faith, amlhaodd yn fawr nifer y graddedigion a raddiodd gydag anrhydedd mewn Athroniaeth eithr ni chaffent ond ychydig gyfle i fwynhau cyfathrach eu cyd-athronwyr wedi iddynt adael y Colegau a dechrau aredig eu gwahanol gwysi yn eu galwedigaethau beunyddiol. Eto, ffynnai diddordeb mawr mewn gwahanol agweddau ar weithgarwch athronyddol yn eu meddyliau hwy ynghyda llawer eraill na freintiwyd â chwrs ffurfiol yng Ngholegau'r Brifysgol. Ond nid oedd, ysywaeth, unrhyw gym- deithas yn y wlad a'i neilltuai ei hun yn gyfan gwbl i drin problemau athroniaeth mewn Cymraeg. Pa bryd bynnag y siaradai'r Cymry athroniaeth bur a'i gwahanol ganghennau, yr oedd yn safndrwm, a'i lleferydd yn fynych yn drwsgl a bloesg ac o ddydd i ddydd cynyddai'r angen am ryw oruchwyliaeth i ystwytho'i pharabl, a'i galluogi i drin yn rhwydd holl agweddau modern y wyddor. Codai llef yma a thraw drwy'r wlad am gymorth i drafod y pethau hyn yn ddealladwy ac effeithiol mewn ugeiniau o ddosbarthiadau allanol, daeth galw am ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf yn y cang- hennau hyn drwy gyfrwng y wasg a'r pulpud, — eithr llef a galwad hytrach yn anghyfiaith ydoedd. I'r Parchedig Herbert Morgan a'r Athro R. I. Aaron y perthyn yr anrhydedd am ddehongli'r llef honno'n glir canys hwynt-hwy ill dau a benderfynodd yn y Rhyl, ryw dro adeg cyfarfod o Urdd y Graddedigion, y byddai'n werth treio ymgynghori â nifer o garedigion Athroniaeth yng Nghymru i ystyried y priodoldeb o ffurfio rhyw fath o gymdeithas i hyrwyddo astudiaeth o Athroniaeth ymhlith y Cymry." Canlyniad yr ym- ddiddan a'r ymgynghoriad fu gwahodd amryw o athronwyr i gyd- gyfarfod yn ystafell yr Athro W. Jenkyn Jones yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Cyfarfuwyd yno Gorffennaf 22ain, 1931, am 9.30 a.m., ac y mae'n werth cofnodi enwau'r rhai oedd yn y cyfarfod hwnnw. W. Jenkyn Jones yn y gadair T. Eirug Davies, Llanbedr T. G. Davies, Pembre D. James Jones, Coleg Harlech W. H. Morgan, Felin Fach, a Herbert Morgan, a wasanaethai fel ysgrifennydd am y tro. Methodd Dr. Aaron fod yn bresennol oblegid ei alw ymaith at ddyletswyddau eraill y dyddiau hynny. Yno y goleuwyd y gannwyll; oblegid penderfynwyd mentro ar ffurfio cymdeithas, a cheisio gan Urdd y Graddedigion ei chydnabod BYR HANES ADRAN ATHRONYDDOL URDD Y GRADDEDIGION 1931-1937. NODIADAU.