Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. JOHN LOCKE. By R. I. AARON. Oxford University Press. 1937. xii + 328. 12/6. MAE'R gyfres Leaders of Philosophy o'r cychwyn wedi cadw safon nodedig iawn, a chymer y gyfrol ddiweddaraf hon Ie uchel iawn hyd yn oed mewn cwmni mor ddyrchafedig. Mae mor ysgolheig- aidd ag Aristotle Mure mor synhwyrol a chytbwys â Spinoza Roth mor dreiddgar ei dadansoddiad athronyddol â Berheley Hicks. Yr Athro Aaron yn ddiau yw'r ieuengaf o lawer o'r ysgrifen- wyr, ac eto wrth ei ddewis ef i wneud gwaith mor gyfrifol, dangosodd y golygydd cyffredinol, y diweddar Athro J. L. Stocks-ysywaeth, megis o'i fedd-brawf arall o'i ddawn ddihafal i adnabod ei ddyn. Crynhoi esboniad beirniadol ar holl gynnyrch athronyddol meddwl Locke i ryw 300 tudalen--dyna orchwyl annichonadwy ond i un sy'n bencampwr yn y maes. Dengys pob tudalen yn y gyfrol fod y cyfryw feistrolaeth ar y pwnc gan yr Athro Aaron. Ni ellid dymuno, ond odid, ddosbarthiad perffeithiach ar y defnydd, ac oherwydd hynny, a'r cynilo gofod a ddaeth yn ei sgîl, medrodd yr awdur gael 11e i drafod yn llawn ryfeddol bynciau mwyaf dyrys dysgeidiaeth Locke. Er mor ddefnyddiol yw'r llyfr i'r neb a fo'n newyddian yn yr astudiaeth hon, nid hynny'n unig yw dysg yr hen law' hefyd lawer drwyddo. Mae gan yr Athro Aaron rywbeth newydd a phwysfawr i'w ddweud ar lu o bynciau. Er enghraifft, cymerth y cynigion cyntaf ar yr Essay a luniwyd flynyddoedd lawer cyn ei gyhoeddi, a thrwy hynny, llwyddodd i daflu cryn dipyn o oleuni newydd ar ddysg Locke, yn ei egin, fel petai ac felly hefyd yn y drafodaeth newydd ac argyhoeddiadol ar ddylanwad helaeth yr athronydd tramor, Gassendi, ar Locke. Ni ddangoswyd erioed mor eglur ag yn ymdriniaeth werthfawr yr Athro bwysiced yw Llyfr III o'r Essay i'r neb a fynno ddeall damcaniaeth Locke ar y cyffredinolion. A hyd yn oed yn yr adrannau hynny, lle dewisodd yr Athro ddilyn y traddodiad uniongred, y mae'r newydd-deb sydd yn yr ymdriniaeth yn anadlu anadl einioes mewn esgyrn sychion iawn. Er ei ymroddiad i fanion astudiaeth o Locke, ni chyll byth ei afael ar y gwirionedd mawr, sef bod problemau Locke gan mwyaf yn aros yn broblemau i ninnau, ac oherwydd hynny rhoes i ni gyfrol o ysgolheictod trylwyr heb y cyffyrddiad Ueiaf o hynaf- iaetholrwydd.' Fel y gweddai, yr Essay yw testun corff y gyfrol. Ond efallai y bydd astudwyr Damcaniaeth Wleidyddol yn debyg o deimlo nad teg hollol yw gwasgu cyfraniadau pwysig Locke i'r astudiaeth honno i ryw ugain tudalen, er cystal ydynt. A theg, o'r tu arall,