Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yw gofyn i'r cyfryw rwgnachwyr nodi pa rannau eraill o'r gyfrol a ellid eu hepgor er sicrhau y gofod angenrheidiol. Ni fedr yr adol- ygydd, beth bynnag, gytuno i dorri dim allan. Ond gan fod y natur ddynol y peth yw-ymhlith athronwyr, 0 leiaf — nid yw'n medru cyd-weld yn hollol â'r Athro Aaron yn rhai o'i esboniadau a'i farnau. Dyma ar fyr eiriau, lle methaf â chyd-weld. (1) Nid argyhoeddwyd fi fod yr Athro wedi rhoi ei llawn werth i'r feirniadaeth honno a ddeil fod gwendid yn yr Essay yn hyn o beth, sef fod Locke wrth drafod cymhwyster digonol cyfrwng neu offeryn gwybodaeth yn gorfod defnyddio'r offeryn hwnnw ei hun. (td. 65). Etyb yr Athro nad amcan Locke oedd profi fod gwybod- aeth ddynol yn bod — rhagdybia ein bod ar brydiau yn gwybod- ac felly nid teg ei gyhuddo o ragdybio y pwynt a geisia ei brofi. Ond yn siwr i chwi, amcan Locke oedd ceisio profi ym mha gylch- oedd yr oedd gwybod yn bosibl, ac ym mha rai yr oedd yn amhosibl. A phwynt y feirniadaeth i mi yw bod ei ddull ef o fwrw golwg ar ein dealltwriaeth,' yn rhagdybio o'r cychwyn wirioneddolrwydd un cylch arbennig o wybod, sef y seicolegol. (2) Ond y mae'r Athro Aaron bron fel petai arno awydd dal nad amcanodd Locke o gwbl geisio profi ym mha gylchoedd y mae gwybod yn ddichonadwy. Amlwg yw ei fod ef ei hun yn credu mai ofer ceisio rhagbenderfynu pa broblemau sydd atebadwy, a pha rai sydd anatebadwy,' ac y carai gyhoeddi Locke yn ddieuog o'r fath oferedd. Ond ymddengys i mi'n eglur i Locke geisio gwneud y peth arbennig hwnnw, ac ymhellach iddo dybied ei fod i raddau wedi llwyddo. Rhydd yr Athro ormod o ddẁr,' mi dybiaf, am ben yr elfen amheus ym meddwl Locke, pan ddywed What Locke is really saying here [in the Introduction] is that if we examine human knowledge we shall find certain problems which the mind has failed completely to solve, and having found them we shall be well advised not to waste further time and energy upon them.' Oni ddisgwyliai Locke fedru dangos, ac oni ddaeth o'r diwedd i gredu ddarfod iddo ddangos fod problemau arbennig na all y meddwl dynol am resymau pendant byth mo'u datrys ? Y mae Llyfr IV., Penn. III., §§ pp 11 yml. yn rhy ddigymrodedd, yn ôl fy marn i, i adael fawr o Ie i amau ar y pwynt. (3) Petrusaf dderbyn gosodiad yr Athro Aaron mai Empeir- aeth Locke yw'r athrawiaeth fod profiad (trwy'r synhwyrau ac adfyfyrdod) yn anhepgor cyn y gall dyn byth wybod dim.' Yn ôl hyn, buasai Kant yn Empeirydd da. Nid hawdd o gwbl yw diffinio empeiraeth Locke, ond efallai y medrwn awgrymu fy marn i arno pe dywedwn er fy mod yn cytuno â'r Athro Aaron nad yw empeir- aeth Locke yn synwyriadol, eto ymddengys i mi fod empeiraeth Locke felly. (4) Ymddengys i mi fod Locke yn cefnu ar empeiraeth hyd yn oed yn ystyr lacaf y gair Uac hwnnw yn rhai o'i ddywediadau ar