Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ofynnol i egwyddorion gwyddonol fod yn addas i'r profiadau empeiraidd, a sonia Carnap byth a hefyd am frawddegau empeir- aidd fel brawddegau-gwir-wrthrych, ond ymddengys mai ei gred olaf yw y bydd rhaid, efallai, o dan ddylanwad ein iaith ffisegol, roi newid hyd yn oed ar frawddegau-protocol seiliedig ar brof- iadau uniongyrchol. Dadleuir y cwestiwn hwn yn frwd heddiw gan ganlynwyr Carnap a chanlynwyr Schlick, ac efallai nad yw syniad Carnap mor od ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf, ond yn anffodus ni chaniata gofod imi ymdrin â'r mater yn awr. Mae Logical Syntax of Language yn batrwm o athronyddu ar ei orau. Heb gytuno â holl ddaliadau'r llyfr, gellir canmol ei eglurder meddwl eithriadol, a'i wybodaeth o wyddoniaeth arbrofol. Llwydda Carnap yn ddiamau i ddangos y byddai'n fwy priodol cyfyngu i'r gwyddorau arbennig, yn enwedig seicoleg a moeseg, lawer o'r cwestiynau yr ymdrinir â hwy yn arferol gan athronwyr. Ymhellach, y mae confensiwn yn chwarae rhan amlycach mewn damcaniaethau gwyddonol nag ydyw'n arfer gan y mwyafrif o wyddonwyr ei sylweddoli, tra gwyr pawb i'r athronwyr gael eu camarwain yn rhy am1 gan iaith. Mae'n amheuthun cyfarfod ag athronydd sy'n fyw i'r ffaeleddau a wna ymdrafodaeth athronyddol yn am1 yn wag a diffrwyth. Y mae'r llyfr hwn yn anodd, ond os darllenir ef ochr yn ochr â Philosophy and Logical Syntax (sy'n rhagarweiniad i'r maes), bydd yn ffynhonnell llawenydd di-baid i'r myfyriwr cydwybodol. DAN DAVIES. CREATIVE MORALITY. By L. A. Reid. London: George Allen and Unwin. 1937. 270. 10/6. Y mae enw Mr. L. A. Reid yn gyfarwydd ym myd estheteg. Yn y llyfr hwn fe dry ei sylw at broblem moesoldeb. Amcan yr awdur ydyw ystyried moesoldeb fel mynegiant o agwedd-feddwl yn hytrach nag fel gwyddor drwg a da. Cyfrif hyn ryw gymaint am ddiddor- deb y gyfrol, oblegid fe dynn gymhariaeth rhwng moesoldeb, cel- fyddyd a chrefydd o safbwynt mynegiant. Cychwyn ei drafodaeth gyda'r rhaniad, a red drwy athroniaeth gyfoes, rhwng yr awydd am bendantrwydd a chysondeb rhesymegol ar un llaw, a'r ymdrech i amgyffred diriaethau cyfan ar y llaw arall. Cynrychiolir y saf- bwynt cyntaf gan Wittgenstein a'r Dadansoddwyr Rhesymegol, a'r safbwynt arall gan y rhelyw o'r athronwyr. Y tâl am bendant- trwydd rhesymegol ydyw pellhau oddi wrth ddiriaeth rial. Ym- restra Mr. Reid yn rhengau y sawl a ddarostwng ddadansoddiad i wasanaeth sythwelediad o bethau yn cydfodoli yn ddiriaethol. Ymdrech i gyfiawnhau'r safbwynt hwn mewn perthynas â moesol- deb ydyw'r rhan helaethaf o'i gyfrol. Gwna hyn yn rhan gyntaf ei