Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dianghenraid am dresbasu, y mae dadansoddiad moesol Mr. Reid o berthynas y crediniwr â'i Dduw o fewn y profiad Cristnogol yn rhywbeth a ddylai fod yn gofiadwy i ddiwinyddion yn ogystal â moesegwyr. Ei broblem gywreiniaf, o safbwynt moeseg, ydyw'r cwestiwn, A yw'r sawl sy'n amddifad o ysbrydoliaeth gyfryw yn foesol gyfrifol am hyn ? A ddylem ystyried damcaniaeth foesol yn ddigonol os dibynna ar elfennau sydd i rai, o bosibl, ac yn eu tyb gonest hwy, y tu allan i gylch eu profiad ? Ni chwerylwn â chasgliadau terfynol Mr. Reid fod gweledigaeth yn fwy hanfodol nag ymdrech, mai cariad ydyw sail daioni moesol, a bod ysbrydol- iaeth yn drwyadl hydreiddiol ymhob agwedd ar brofiad a gweith- garwch y sawl a'i medd. R. MEIRION ROBERTS. THE SOCIAL CONTRACT A critical study of its development. By J. W. Gough. Oxford, Clarendon Press. 1936. vi. + 231. 12/6. YN wyneb y prinder o lyfrau da ar hanes athroniaeth wleidyddol bydd y llyfr hwn yn werthfawr iawn. Olrheinia'r awdur ddatblyg- iad y syniad am gyfamod cymdeithasol gan egluro ei wahanol ffurfiau mewn perthynas â'r cefndir hanesyddol. A phrawf try- lwyredd ac eglurder yr hanes, cydbwysedd y llyfr drwyddo, a'r dethol doeth o bethau i'w pwysleisio, fod yr awdur yn gwybod ei ffordd yn dda drwy gorff anferth o lenyddiaeth wleidyddol. An- fynych hefyd y ceir cyfuniad mor hapus o'r hanesydd a'r athronydd i ysgrifennu hanes athroniaeth. Dechreuir gyda'r Groegiaid gan ddangos adwaith Platon ac Aristotles, yn cynrychioli traddodiadau gorau Groeg, yn erbyn y syniad am gyfamod cymdeithasol a briodwyd mor gynnar ag un- igoliaeth. Credaf y gellir dangos bod rhywbeth o'r un natur â'r cytundeb hwn wrth wraidd syniadau gwleidyddol Platon ei hun. Ystyrier yr ymdriniaeth ar ryddid yn adran 463 o'r Politeia. Ond mae safbwynt Mr. Gough yn fwy cydnaws â'r farn gyffredin, ac nid oes ofod i ddadlau'r pwnc yma. I'w arwain drwy hanes y cyfamod yn y cyfnod Cristnogol gwna'r awdur wahaniaeth pwysig rhwng cyfamod llywodraethol (contract of government) a chyfamod cymdeithasol (social contract), y naill yn gytundeb rhwng y deiliaid a'u llywiawdwyr yn gosod i lawr hawliau a dyletswyddau eu gilydd, a'r llall yn gytundeb mwy sylfaenol rhwng yr aelodau i gyd i fod yn gymdeithas wladwriaethol. Y cyntaf oedd yn fwyaf amlwg yng nghyfnod cynharaf yr oesau canol, ond yma, fel mewn cyfnodau diweddarch, arweiniodd yr ymdriniaeth â'r cyfamod llywodraethol i ymdeimlad o gytundeb mwy sylfaenol yn hanfod y gymdeithas ei