Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

theg. A bydd y bennod ar y tramorwyr a fu'n trin y pwnc o saf- bwynt y gyfraith yn nechrau'r ddeunawfed ganrif yn ddefnyddiol iawn i'r neb a gais ddeall gwerth arhosol yr athrawiaeth am y cyf- amod. Ym mhob cyswllt llwyddodd yr awdur iamlygu'r berthynas rhwng ymdriniaeth gwahanol awduron a'r syniad am y cyfamod a syniadau eraill a faentumient, e.e. diwinyddiaeth yr oesau canol a 'hawliau naturiol' cyfnodau diweddarach. Yn y Diweddglo byr honnir mai'r elfen o wirionedd yn yr athraw- iaeth y buwyd yn olrhain ei hanes yw'r mynegiant amherffaith a roes i'r modd y rhagdybia dyletswyddau'r wladwriaeth at yr unig- olyn ei ddyletswyddau yntau ati hi a vice versa. Awgrym trawiadol yw hwn ond credaf fod rhagor yn y ddamcaniaeth. Onid cytun- deb yw 'r wladwriaeth ei hun, er bod y cytundeb yn ddarostyngedig i ofynion cyffredinol y gyfraith foesol ? Ond nid adolygiad byr yw'r Ue priodol i amddiffyn athrawiaeth amhoblogaidd a bodlonaf ar roi fy nheyrnged i'r awdur am lyfr a fydd o ddiddordeb i gylch eang iawn, ond o fudd arbennig i rai sydd yn astudio athroniaeth wleidyddol mewn amryw golegau a dosbarthiadau allanol. H. D. Lεwτs. PSYCHOLOGY DOWN THE AGES By C. SPEARMAN, Ph.D., LL.D., F.R.S. London Macmillan 0- Co. 1937. 2 vols Vol. I xi + 454, Vol. II. vii + 355. [1 10s 0c. HAWLIA seicoleg Ie pwysig ymhlith y gwyddorau, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'n estyn ei llywodraeth dros holl faes ymarweddiad dyn. Ac eto, oherwydd anghytundeb ac ymryson ymhlith seicolegwyr eu hunain, a'r petruster a deimlir wrth alw tiriogaeth mor llydan ac amwys yn wyddor o gwbl, teimlwn yr angen, o bryd i bryd, am ryw adolygiad ar gynnydd cyffredinol seicoleg. Bu ambell ymgais eisoes i ysgrifennu ei hanes, yn bennaf gan Brett, Boring a Flugel yn Saesneg, a chan Klemms yn ei waith enwog, Geschichte der Psychologie. Ond ceisia Spearman yn hytrach ddilyn datblygiad syniadau seicoleg trwy'r oesoedd, a dangos o ddifrif fod corff o ffeithiau ac egwyddorion cyfluniol ar gael y gellir ei alw'n wyddor. Y mae profiad digymar Spearman yn ei gymhwyso'n arbennig at y gwaith. Bu am flynyddoedd yn ysbrydoli ac yn cyfarwyddo ymchwiliadau manwl i gyfansoddiad, swyddau a galluoedd meddwl dyn, gan gyhoeddi ei gasgliadau mewn dau lyfr sydd eisoes wedi dylanwadu'n ddwys ar gwrs seicoleg, sef, The Nature of Intelligence and the Principles of Cognition, 1923, a The Abilities of Man, 1927. Yn ogystal â chynnig damcaniaeth gynhwysfawr o gyfluniad meddwl dyn, rhydd brawf ar ei gasgliadau trwy fathemateg. Er gwaethaf