Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dychmygu a dyfeisio. Tuedda seicoleg fodern i bwysleisio'r el- fennau afresymol yn ymddygiad dyn. Campwaith Spearman yw ailorseddu'r deall. IDWAL JONES. THE DESTINY OF MAN. By Nτcoτ.лs BERDYAEV. London Geoffrey Bles. Centenary Press. 377. 16/ Nro llyfr athronyddol yn ystyr gyfyng y gair yw'r llyfr hwn. Eithr os bernir athroniaeth yn ei thraddodiad dilys trwy'r oesoedd, fel ymchwil dyn am wirionedd terfynol, nid yn unig ar Rialiti, ond hefyd arno'i hun, ynghyda'i fyfyrdod a'i feirniadaeth sub specie aeternitatis ar y cwbl os mai dehongliad Platon, Leibniz, Spinoza, a Whitehead o athroniaeth sy'n gywir, yna, y mae'r llyfr mawr yma (y mwyaf o weithiau Berdyaev) yn Uyfr athronyddol pwysfawr. Pell ydyw o'r ddefod a'r arfer tra modern o redeg mewn rhych, a darfod mewn cul de sac. Eithr gellir dweud ei fod yn fwy na llyfr athronyddol, er Uedu hynny a allom ar swydd athroniaeth. Nid peth newydd yw gweled athronwyr yn ysbeilio'r beirdd, oblegid y mae'r campwyr ohonynt wedi tynnu'n helaeth ar ddeunydd barddoniaeth, yn ogystal ag ar weledigaeth y beirdd ond mae Berdyaev yn gwneud mwy na hynny. Credaf na eUir gwerthfawrogi rhannau o'i lyfr heb gydym- deimlad dwfn ag awduron fel Dostoevsky, Shakespeare, ac eneidiau mwyaf creadigol yr oesoedd. Heblaw hynny, rhaid bod yn dra chyfarwydd mewn diwinyddiaeth i'w fwynhau. Mae'n syn fel y dwg ei ymresymiad, mor fynych, er cychwyn o safbwynt gwyddonol, foesegol, neu seicolegol, gadarnhad mor glir i ambell athrawiaeth a fernid gennym bellach yn ddi-rym, megis y Cwymp. Dyma brawf arall o wirionedd a fynegwyd gan Whitehead, You may disagree with the theologians, but you cannot complain that they have shirked inteUectual debate." Eithr hwyrach (dyma lyfr rhy fawr i fod yn ddogmataidd arno) mai ei brif werth yw gallu rhyfeddol a chreadigol yr awdur ei hun yn treiddio trwy ymchwil y seicolegwyr, a'r moesegwyr diweddar, a chanfod ynddynt y gwir pwysig am ddyn; ac yna gymathu hwnnw â'i fetaffiseg, nes cynhyrchu llyfr ar un o'r pynciau mwyaf astrus (ond mwyaf swynol), sef tynged dyn. Beirniadaeth lem ar epistimeg yw'r bennod gyntaf: oherwydd ei diddordeb yn ffurfiau gwybodaeth yn hytrach na cheisio ateb cwestiwn trymach-sef- pwy yw'r sawl sy'n gwybod ? Cefais yr ail bennod ar darddiad Da a Drwg yn anodd iawn. Oni ddeellir hon ni ddeeUir mo'r gweddill o'r llyfr, am fod seiliau'r pwnc o ryddid yn cael eu traethu yma. Gwelir bod meistrolaeth yr awdur ar weithiau'r meddylwyr