Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er mwyn ateb y cwestiwn sy'n codi o honiad Kant-h.y. a yw'n bosibl hawlio gwerth i wrthrychau heblaw'r ewyllys dda ?-rhydd Jury gryn dipyn o'r llyfr i ddiffinio'i dermau. Rhaid inni gwtogi'n swta ei ddadl ddeheuig ef y mae'r farn foesol yn farn sy'n cynnwys gosodiad (proposition) gall hwn fod yn gam neu'n gymwys gan hynny, nid cywir yw dywedyd bod modd esbonio ystyr y gosodiad trwy gyfeirio at yr amodau seicolegol a roes fod i'r farn. Dadleua fod y syniad o werth, fel y syniad o rif, neu'r syniad o ddyletswydd, yn syniad a priori. Y mae'n un o gyfundrefn o amgyffredion arbennig sydd mewn un ystyr yn annibynnol ar brofiad oblegid trwyddynt hwy y mae profiad yn bosibl, h.y., yn ddealladwy. They anticipate experience." Y casgliad y daw iddo felly yw bod gwerth yn syml, na ellir ei ddadansoddi ond y gellir graddau ohono gall berthyn i wahanol wrthrychau yn y profiad dynol. Yr un hefyd yw ei natur hanfodol pa Ie bynnag y'i ceir. Yn fras dyna brif gasgliadau'r llyfr. Sgrifennwyd ef mewn arddull- ag eithrio ychydig lithriadau Americanaidd — sy'n glir a diamwys. Y mae'n un o'r llyfrau y cefais i fwy ohono, ar y pwnc hwn, nag a gefais o ddim arall ers cryn amser. HUW MORRIS-JONES.