Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRIFOLDEB MOESOL A RHYDDID Y tylwyth, yn hytrach na'r unigolyn, yw'r uned gym- deithasol sylfaenol mewn cymdeithas gyntefig. Darostyngir pob agwedd ar. fywyd i'w draddodiadau a'i arferion diymod ef. Cymhwyso'r cyfryw, yn hytrach na gosod cyfreithiau a gweinyddu polisi, yw swydd y penaethiaid. Perchenogir pob peth yn gyffredin. Gan hynny, naturiol yw ystyried y tylwyth yn gyfrifol am weithrediadau aelodau ohono. Fe gofir yr hanes am Achan1 a'r modd y llabyddiwyd ei deulu i gyd o achos ei bechod ef. Mynych y sonia'r Hen Destament, hefyd, am ymweled ag anwireddau y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth. O'r ochr arall, bendithir y cyfiawn yn neilltuol yn ffyniant ei had. Yr agwedd foesol yma a gyfrif, i raddau llawer pellach na'r awydd i oresgyn tiroedd newydd, am ryfeloedd bore. Achosai gynnen a barhai o genhedlaeth i genhedlaeth. Rhoddodd gwareiddiad, fodd bynnag, arwyddocâd cyn- yddol i'r unigolyn. Caniatawyd iddo eiddo personol a chyfle i'w gymhwyso ei hun i ryw waith y rhagorai ynddo. Aeddfedodd yr ymdeimlad o hawl i Ie neilltuol mewn trefniadaeth gymdeithasol a ddeuai, hithau, yn fwy cym- hleth a hyblyg. Ildiodd goruchwyliaeth y barnwyr i lywodraeth ystwythach y brenhinoedd a'r cynghorau. Dibynnent hwythau yn fwy uniongyrchol ar ewyllys y bobl. Symbylodd hyn ymdeimlad o gyfrifoldeb personol. Daeth- pwyd i ddeall mai am ei weithredoedd ei hun yn unig yr oedd dyn i ateb. Eithr araf ac ansicr fu'r datblygiad yma. Dyfnhawyd llawer arno gan Gristionogaeth. Ond tra amherffaith hyd heddiw yw ein dirnadaeth o'r egwyddor mai'r person unigol yn unig sydd yn gyfrifol. Mae ei pharch yn llai nag y bu. Amlygir hyn mewn mwy nag un cyfeiriad. Wele rai enghreifftiau. (i) Tueddodd Idealaeth i uniaethu dyn â chymdeithas. Gwadai fod gwahaniaeth personau yn syl- faenol, ac aethpwyd i sôn am gymdeithas fel person. Nodd- aJosua VII. 24-26.