Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLE AMSER YN ATHRONIAETH McTAGGART I Yng nghyfrol gyntaf ei waith meistrolgar, The Nature of Existence, ceisia McTaggart osod i lawr sylfeini'r ddadl a'i harweinia i gasglu na all dim fod yn rial ond yr hyn sydd ysbrydol. Ni all dim fod yn rial oni ellir ei adrannu'n annherfynol, a hynny heb anghysondeb. Ceisia McTaggart ddangos, drwy system gymhleth y Determining Corres- pondence, nad yw adraniad felly'n rhesymegol amhosibl. Ni ellir adrannu na gofod na mater na sensa nac amser yn annherfynol heb syrthio i anghysondeb. Ond gellir cael ad- raniad annherfynol heb anghysondeb ym myd "gwybodaeth", oblegid gallaf wybod fy mod yn gwybod fy mod yn gwybod ad infinitum, a gall fy ngwybodaeth o un peth fod yn rhan o'm gwybodaeth o beth arall. Hunanau a'u profiadau yn unig a all fodloni gofynion llym Determining Correspondence. Ysbrydol drwyddi draw yw natur bodolaeth, a cham- ganfyddiad (misperception) o wir natur pethau yw'r dyb bod mater a gofod a sensa yn rial. Nid oes dim o'r rial mewn amser ychwaith. Y mae popeth rial yn ddiamserol ac ysbrydol. I sefydlogi ei safbwynt felly, y mae'n rhaid i McTaggart brofi — i'w fodlonrwydd ei hunan beth bynnag- nad yw amser yn rial a bod pob gosodiad a ragdybia ei rialiti yn anghywir. Y mae dadleuon McTaggart i wrth- brofi rialiti amser yn annibynnol ar system y Determining Correspondence, ac felly nid oes raid i ni aros i amlinellu dim rhagor ar y crefftwaith aruthr hwnnw. Cyfeiriwyd ati uchod er mwyn dangos nad gosodiad noeth yn unig yw sylfaen athroniaeth McTaggart. Archwiliodd y Dr. Broad y system yn fanwl yng nghyfrol gyntaf ei Examination of McTaggarfs Philosophy, a chafodd fod yna beth pridd yn nhraed y ddelw fawr, ond nid oes a wnelo'r gwendidau hynny â dadleuon McTaggart yn erbyn rialiti amser. Yr ydym yn ymwybod ag amser, medd McTaggart, mewn