Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

awr anterth yr Athroniaeth Hegelaidd yn ei wlad, sef Denmarc, pan oedd hi'n llywio'n fwy-fwy gyfeiriad ei holl fywyd, fe roes yr ysbryd unig hwn ei holl egni ar waith i frwydro yn ei herbyn. Nid nad oedd ef yn cydnabod bod iddi werth mawr, ond ei fod, er hynny, yn gweld ynddi berygl colli golwg ar wirioneddau sy'n hanfodol nid yn unig i Gristnogaeth, ond hefyd i bob gwerth a fedd yr unigolyn ynddo'i hun, ynghyda gwerth manyldeb diffinio, gweithredu, ymarfer â rhyddid a chyfrifoldeb, a gweld arwyddocâd tragwyddol yn arbenigrwydd digwyddiadau pendant hanes- yddol. Yr oedd Kierkegaard, er na feddai'r synnwyr drannoeth y ganed Hulme iddo, yn gwbl o'r un farn y dylid cydnabod amherthynas ddiamodol. Un o brif dermau ei athroniaeth yw llam. Byddai'n cytuno'n galonnog â phob dim yn y sylwadau ar ddechrau Speculations, ond yn unig na fynnai ddileu'r arswyd a brofir ar fin yr agendor, ac nid ym maes astudiaeth wrthrychol o fyd allanol natur y chwiliai ef am amlygrwydd mwyaf pwysig y bylchau, ond yn hunan- ymwybod goddrychol yr ysbryd unigol mewn myfyr, gwaith, ac addoliad. Fel Hegel yntau, y mae Kierkegaard yn dra hoff o'r gair dilechdid, ond y mae ei ystyr yn fwy Socrataidd o lawer ganddo. Nid ymgyrraedd y mae Kierkegaard yn ei ddilech- did ef at oresgyn yn rhesymegol y gwrthgyferbyniadau a gyfyd trwy resymu, ond chwilio am yr elfennau sy'n wirion- eddol wrthwyneb neu wahanol, ac na ellir eu cyfuno trwy gyfrwng rheswm o gwbl, am eu bod yn wahanol. Yn nech- rau ei lyfr ar Y Syniad o Arswyd dyfynna Kierkegaard un o sylwadau Hamann1, sef Yr oedd Socrates yn fawr yn ei waith yn gwahanu rhwng a ddeallai a'r hyn na ddeallai." Nid oedd hynny mwyach yn ffasiynol, meddai Kierkegaard, gan fod y System (sef yr Idealaeth Ddiamod neu Absoliwt) bob amser yn eu cysylltu Nid na fynnai Kierkegaard yntau gael cyfuniad neu synthesis mewn bywyd. I'r gwrthwyneb, fe'i mynnai'n bendant mewn bywyd, ond nid trwy gyfrwng y rheswm pur ar draul gwahaniaethau nad yw'r rheswm yn offeryn priodol i'w goresgyn, eithr yn 'Am Hamann gwel yr atodiad i'r erthygl hon, t. 55.