Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU HANES ATHRONIAETH: Y CYFNOD GROEGAIDD. Gan yr Athro D. JAMES Jones. Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Rhif 19. Caerdydd, 1939. Tt. vi + 166. 2/6. PAN gofiwn y rhoir inni yn y gyfrol hon o 166 tudalen hanes athroniaeth Groeg o Thales hyd y Stoiciaid a bod y penodau ar y prif feddylwyr, Platon ac Aristoteles, yn amlinelliad cyflawn o systemau'r athronwyr hyn, nid gormod yw dywedyd ei bod yn gampwaith o gywasgu a chrynhoi. Diau fod y drafodaeth mewn mannau yn anodd, fel yr eddyf yr awdur ei hun yn ei Ragair, ond mi dybiwn mai amhosibl fyddai osgoi hynny mewn gofod mor gyfyng a rhaid llongyfarch yr Athro ar wneuthur ohono'r stori mor eglur a darllenadwy ag y mae. Cawn gip mewn rhagarweiniad cryno ar gefndir yr hanes. Teim- lwyd anhawster erioed i benderfynu pa un ai athronwyr ai gwyddon- wyr i alw'r Cyn-socratiaid cynharaf a chredaf i'r Awdur glirio'r cymysgwch hwn yn foddhaol drwy awgrymu eu bod yn athronwyr o ran anianawd ac osgo a phroblemau ond iddynt ymchwilio mewn meysydd y daethpwyd i'w cyfrif yn ddiweddarach yn briod feysydd gwyddoniaeth. Byddai'n amhosibl rhoi syniad cyflawn am gynnwys y dosrannau ar y Cyn-socratiaid. Craffwn ar dri phwynt: (i) Rhoes Thales gyfeiriad i'r holl ddatblygiad drwy olrhain cyfnewidiadau a gwahaniaethau'r byd gweledig yn ôl i un deunydd" (dwr yn ei dyb ef). (ii) Pwysleisiodd Heracleitos gyfnewidioldeb a darfodedigrwydd pethau mor rymus ag i daflu amheuaeth ar bosibilrwydd gwybodaeth a moesoldeb a'i gwneud yn rhaid ar athronwyr diweddarach eu cyfiawnhau o newydd drwy ddatguddio'r elfennau anghyfnewidiol" sydd ynddynt. (iii) Cychwynnodd Parmenides y gainc arall yn natblygiad Athroniaeth Groeg a gyrhaeddodd ei huchafbwynt ym Mhlaton, sef y gred mai'r anghyfnewidiol yn unig sy'n rial a bod y byd a ganfyddir â'r synhwyrau oherwydd ei gyfnewidioldeb yn anrial. Ychydig dudalennau a allesid roi i bob un o'r unarddeg athronydd cyn- socrataidd (heb gyfri'r Soffyddion) ond llwyddodd yr awdur i roi syniad clir a lled fanwl o'u safbwyntiau. Teimlais iddo lwyddo'n arbennig felly yn y pedwar tudalen ar baradocsau Zenon Gyda'r Soffyddion wynebir set o broblemau gwahanol a dech- reuir cyfnod newydd. Problem esbonio'r byd allanol a gafodd sylw hyd yma ond gyda chyffroadau a chyfnewidiadau'r burned ganrif tynnwyd sylw dyn ato ef ei hun. Dechreuwyd amau posibil- rwydd gwir wybodaeth ac aeth seiliau'r bywyd moesol a chym- deithasol yn ansicr. Mynegir tymer y cyfnod yn nyfaliadau'r