Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

unigolyn y bydd nodweddion priod y rhywogaeth y perthyn iddi wedi eu sylweddoli ynddo'n llawn. Bydd y cyfryw sylweddoliad o bosibliadau yn sylwedd Nid carcharor ym medd y corff mo'r enaid i Aristoteles. Ffurf neu swyddogaeth y corff ydyw ac ni fodola gan hynny ar wahân i'r corff. Gwir bod mewn dynion elfen ddwyfol, Rheswm neu'r Deall Gweithredol, ac er fod hwn yn anfarwol (gan mai gweithgarwch yw ei hanfod) ni sicrheir drwy hynny ddim anfarwoldeb personol, canys hanfod cyffredinol ac nid peth preifat i unigolion ydyw Rheswm. Trenga'r enaid unigol gyda'r corff, canys bywyd y corff ydyw. Moeseg Aristoteles, ond odid, yw'r adran fwyaf adnabyddus o'i waith. Pery'n rhagarweiniad rhagorol i'r pwnc hyd y dydd hwn. Gwelwn oddi wrth dudalennau'r Athro y try damcaniaeth Aristo- teles o gwmpas dau begwτı-Dedwyddwch (Iwdaimonia) a Rhin- wedd. Gweithredu yw byw ac anela pob gweithred at ryw ddiben neu'i gilydd. Dedwyddwch yw diben y dibenion, ac fe'i sicrheir pan gyflawno dyn ei swyddogaeth briod, sef gweithredu yn unol â rhagoriaeth neu rinwedd drwy ddwyn elfennau chwantol ei enaid dan reolaeth rheswm. Gwneir hynny yn ymarferol drwy osgoi eithafion ym mhob peth a dewis y canol'. Golygir wrth hynny weithredu mewn ffordd a fydd yn osgoi'r hyn y bernir gan Ddoeth- ineb Ymarferol ei fod yn ormod neu'n rhy ychydig yn ôl gofynion y sefyllfa ar y pryd. Myn Aristoteles nad oes ystyr i rinwedd namyn mewn gweithgarwch, ac y mae'r pwyslais yn ganmoladwy. Eithr yn ddiweddarach fe'i harweiniwyd gan y syniad mai myfyrdod yw'r gweithgarwch puraf i ymddangos fel pe gwadai'r safbwynt iachus hwn a gwneuthur dedwyddwch yn rhywbeth i'r deall yn unig. Amser a ballai i mi amlinellu cynnwys y gyfrol ar syniadau gwleid- yddol Aristoteles nac ychwaith ar y cyfnod ôl-Aristotelaidd yr ymdrinir braidd yn fratiog ag ef mewn chwe thudalen ar y diwedd. Canys rhaid yw tynnu i derfyn. Gwn na wna'r braslun hwn fawr chwarae teg â'r gyfrol, eithr gobeithiaf y bydd iddo symbylu darllenwyr yr Efrydiau i'w phwr- casu a'i darllen. Mae'r iaith i'w chanmol yn fawr er imi deimlo'r gystrawen yn anystwyth ar brydiau. Dylasid rhoi cyfystyron Seisnig diddwythol' ac anwythiad'; ni ddaeth y geiriau hyn yn ddigon cyfarwydd eto. Purion fuasai gwneud hynny hefyd â'r gair 'traw' ar dudalen 16. Amheuaf 'honni fel doethineb' (tud. 19) a chyfeirio ar' (tud. 123) a synnais i'r Athro adael y jgair Saesneg sphere heb ei gyfieithu, yn enwedig gan ei fod yn digwydd mor aml ar dudalennau 30 a 132. Eithr nid ychwanegaf chwilio brychau. Y maent yn rhy ddibwys i dynnu dim oddi wrth werth y llyfr. J. R. JONES.