Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fe welir gwendid a chryfder ein ffurf-lywodraeth ni yn eglurach nag erioed. Ond ar waethaf ei diffygion y mae Gweriniaeth yn rhagori'n amlwg o ran ei hamcanion ar y dull arall 0 lywodraethu cymdeithas. Sylfaen cymdeithas yw'r unigolyn ac amcan cymdeithas yw hyr- wyddo ei ddatblygiad ef. Ynddo ef y mae'r gwerthoedd yn cartrefu a'i bersonoliaeth ef yw'r gwerth pennaf o safbwynt Crist- nogol a democratig. Y mae dibrisio personoliaeth ac anwybyddu urddas yr unigolyn yn nodweddiadol o'r llywodraethau totalitar- aidd a dyna paham y dinistrir y cymdeithasau diwydiannol, diwyll- iadol a chrefyddol sy'n anhepgorol i'w dyfiant personol ac yn ei gymhwyso i fod o'r gwasanaeth pennaf i'r wladwriaeth. Tybia'r dictaduriaid, fel y gelwir hwynt yn y llyfr, eu bod yn dyrchafu'r wladwriaeth trwy ddarostwng yr unigolyn, ond ffordd gwendid a distryw yw ei ffordd hwy o'i dilyn i'r pen draw. Gall fod yn hwylus dros dro i wladwriaeth filitaraidd, ond y mae'n seiliedig ar syniadau cyfeiliornus am natur dyn a chymdeithas. Y mae'r ymdriniaeth ar y materion hanfodol hyn yn weddol fanwl ac yn myned at y gwraidd. Y mae'r un gallu i afaelyd mewn egwyddorion canolog i'w ganfod yn y penodau ar Ryddid a Sylfeini, a phrin efallai y mae eisiau dywedyd mwy er mwyn cymeradwyo'r llyfr cryno, rhad a gwerth- fawr hwn i sylw'r neb sydd a diddordeb ganddo mewn materion athronyddol. HERBERT MORGAN. THE PHILOSOPHY OF PHYSICAL SCIENCE. By Sir Arthur EDDINGTON. Caergrawnt, 1939. Tt. xii + 230. 8/6. PRIF ddamcaniaethau ffiseg heddiw yw damcaniaeth Perth- nasiaeth a damcaniaeth Quantum. Maes y blaenaf yw'r molar a'r macroscopig; rhydd esboniad o symudiadau yn y system heulog a gyfrifid yn afreolaidd dan yr hen ddamcaniaethau teifl oleuni hefyd ar wneuthuriad y bydysawd fel cyfanbeth. Maes dam- caniaeth Quantum, ar y llaw arall, yw'r microscopig, y gronynnau lleiaf a mwyaf elfennol yn y bydysawd. Bu'r ddwy ddamcaniaeth yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, yn enwedig damcaniaeth Quan- tum-a barnu'u llwyddiant wrth gywirdeb eu rhagfynegiadau. Ond er fod hyn yn ddigon gwir, y mae'n wir hefyd nad yw'r sefyllfa yn ffiseg heddiw yn foddhaol. Y mae diffyg amlwg i'w ganfod yma, sef bod dwy ddamcaniaeth wahanol yn sylfaen i ffiseg yn hytrach nag un. Eddington oedd y cyntaf i geisio uno'r ddwy, a bu'n ddyfal wrth y dasg hon o 1928 ymlaen. Ceir hanes ei ym- drechion yn ei lyfr, The Relativity Theory of Protons and Electrons, 1936. Yn y llyfr hwn dywed wrth orffen there is nothing in the whole system of laws of physics that cannot be deduced unambiguously from epistemological considerations. An intelligence unacquainted with our universe, but acquainted with