Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a gawn drwy brofi a sylwi, ar y llaw arall. Ond wedi cydnabod y gwirionedd diamheuol hwn, oni ellir dal ar waethaf hyn fod ein gwybodaeth ffisegol eto'n wrthrychol ? Dibynna'n ffiseg, y mae'n wir, ar y galluoedd hynny sydd gennym i synhwyro a gwybod. Gwna, ond oni ddibynna ein galluoedd ar natur y byd oddi allan i ni ? Onid yw argraff y byd allanol ar eu datblygiad a'u tyfiant ? Nid rhyfedd felly fod yr hyn a ddaw inni trwyddynt yn ddelw o'r byd allanol. Gellir gosod yr un pwynt mewn ffordd arall. Un yw'r bydysawd eithr dadansoddwn ef yn ddwy ran hollol wahanol, nyni ein hunain a'r gweddill o'r bydysawd. Ond gwahaniad mympwyol i raddau helaeth yw hwn; yn sicr fe ddwg un rhan ddelw'r llall. Wedi torri gwrthrych corfforol yn ddwy ran nid yw'n rhyfedd yn y byd fod y rhannau yma'n ffitio i gilydd o'u rhoi'n ôl at ei gilydd. Hefyd o edrych ar un hanner gallwn ddysgu rhywbeth o bosibl am yr hanner arall. Tybed ai gwybodaeth o'r fath yma yw ffiseg, a thybed ai dyma'r unig wybodaeth sydd yn bosibl o'r byd allanol ? Dyna gwestiwn na allaf ei ateb gan fy mod bellach mewn dyfroedd dyfnion. Ond yr wyf yn ddibetrus yn dweud hyn, i Eddington wneud gwasanaeth drwy alw sylw ffisegwyr at y method newydd hwn, method epistemeg. Dyma ffordd newydd o edrych ar broblemau ffiseg a ffordd y ddylai agor meysydd newydd o'n blaen. Nid oes eisiau dweud, wrth orffen, fod y llyfr yn ddarllenadwy iawn -disgwylir ysgrifennu fda wrth agor llyfr newydd o waith yr awdur, ac ni'n siomir yn y llyfr hwn. T.L. ac R.I.A. LANGUAGE AND REALITY THE PHILOSOPHY OF LANGUAGE AND THE PRINCIPLES OF SYMBOLISM. By WILLIAM MARSHALL URBAN. Allen and Unwin, Llundain. 1939. Tt. 755. 21/ Dyma lyfr gwerthfawr a chynhwysfawr. Y mae'r awdur fel y gwyddom yn feddyliwr praff, dyfnddysg. Hyfrydwch i'r meddwl ac adgyfnerthiad i ffydd ydyw darllen ei lyfr meistrolgar. Yn ei ragymadrodd i'r llyfr hwn cyfeiria'r awdur at lyfr blaenorol o'r eiddo — The Intelligible World, — ac iddo awgrymu yn niwedd hwnnw fod ganddo yn barod ymdriniaeth ar iaith. Amddiffyn y Traddodiad Mawr mewn athroniaeth — y traddodiad Groegaidd Cristnogol — yn erbyn ymosodiadau Moderniaeth ydoedd ei bwrpas yn The Intelligible World. Maentumia Urban y sylfaenir y traddodiad hwn ar werthfawrog- iad uchel o iaith. Disgrifir y ỳhilosoỳhia perennis uchod fel meta- ffiseg naturiol y meddwl dynol, yr athroniaeth honno yr arweinir osgo naturiol meddwl ac iaith tuag ati yn y pen draw. Yn ei Language and Reality ysgrifenna: Philosoỳhia perennis, which