Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ôl dosbarthu symbolau a mynegi pedair egwyddor symbolaeth, ceir Urban yn trin y ffyrdd y dehonglir symbolau a symbolaeth. Y mae'r rhan hon o'r nawfed bennod yn bwysig eithriadol, ac yn teilyngu ystyriaeth ddifrifol a phwyllog y sawl a'i darlleno. Yn y penodau dilynol y mae'r awdur yn ymdrin ag iaith barddoniaeth a'i ffurf symbolaidd, â gwyddoniaeth a symbolaeth, â symbolau cre- fyddol, ac â iaith metaffiseg. Cloir y cwbl yn y bennod olaf â'i ddaliadau ar y Philosophia Perennis, metaffiseg naturiol y meddwl dynol". Y mae pob un o'r penodau hyn yn werthfawr ac awgrym- iadol iawn. Atyniadol dros ben ydyw'r ddegfed a'r ddeuddegfed. Yn y ddegfed delia'r awdur â barddoniaeth a'i symbolau, ac yn y ddeuddegfed â symbolau crefyddol. Terfynaf gyda chyfeiriad byr at beth o gynnwys y ddeuddegfed. Cydnabuwyd ers hir amser fod perthynas yn bod rhwng barddoniaeth a chrefydd. Gwahaniaethir iaith barddoniaeth oddi wrth iaith crefydd drwy ddisgrifio'r olaf fel barddoniaeth "Niwminaidd Cydnebydd Urban ei ddyled i lyfr enwog Otto, Syniad amy Santaidd, am y dyrchfeddwl hwn. Cyflea'r syniad hwn hynodrwydd y profiad crefyddol yn ogystal â gwrth- rych y profiad hwnnw. Ym marn Otto y mae'r santaidd neu'r cysegredig yn gategori a ỳriori. Golyga hyn (a) na ellir darostwng a throsi'r profiad crefyddol i ffurf arall, megys y moesol neu'r esthetig; (b) bod ansawdd arbennig y profiad hwn yn cyfeirio at wrthrych hynod. Yn ôl Urban dyma hanfod "rialaeth grefyddol" a gesyd bwys arbennig arno, gan ddatblygu eu syniadau amdano gyda gofal mawr. Priodoledd (dimension) ydyw'r "santaidd" a ellir ei phrofi mewn perthynas â phob math o werthoedd intrinsig. Er nad yw yn gysylltiedig yn llwyr a hollol â'r moesol, eto, mewn perthynas â'r moesol y teimlir yr ansawdd crefyddol llawn. Pan fo'r anfeidrol arall a'r anfeidrol dda yn ymdoddi i'w gilydd — dyna'r adeg y profir ansawdd y dwyfol" yn gyflawn. Nid yw mesur fy ngofod yn caniatáu i mi ymhelaethu ar y mater hwn. Yn sicr, y mae'r llyfr yn gyfroddiad safonol a gwerthfawr i athroniaeth iaith a symbolaeth, ac i athroniaeth crefydd. W. H. MORGAN. PROOF OF AN EXTERNAL WORLD HENRIETTE HERTZ TRUST LECTURE, BRITISH ACADEMY. By G. E. Moore. 1939. Humphrey Milford: Tt. 30. Pris 2/ YN y ddarlith nodedig hon fe ofyn yr Athro Moore pa fath brawf sydd yn bosibl o fodolaeth pethau y tu allan inni. I ddeall y cwestiwn rhaid deall y term pethau y tu allan inni". Gelwir hwynt hefyd yn bethau allanol" ac yn bethau y tu allan i'r meddwl ac o'r tri therm yr olaf yw'r cliriaf ym marn yr awdur. Nid pethau y tu allan i 'm corff a olygir, ond y tu allan i'm meddwl. Yn yr ystyr hon y mae fy nghorff ei hun y tu allan imi.