Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceisiodd Kant wneud y term pethau o'r tu allan i'r meddwl yn gliriach drwy ddweud mai pethau ydynt a gyfarfyddwn mewn gofod. Beth yw'r pethau sydd i'w cael mewn gofod ? Byrddau, cadeiriau, cyrff dynion ac anifeiliaid. Hefyd cyfarfyddwn â chysgodion. Nid yr un ystyr yn hollol, ym marn Moore, a berthyn i'r frawddeg arall pethau yn ymddangos mewn gofod er y sieryd Kant am y ddwy frawddeg fel yn golygu'r un peth. A chan fod yr aneglurder hyn ynglyn â gweled pethau mewn gofod, nid yw'n ddiogel gwahanu y mewnol a'r allanol yn nhermau gofod yn unig, Ceisiwn eglurhad arall yn nhermau profiad. Pan fwyf ar ddihun. caf wahanol brofiadau, gweld, clywed, dychmygu, meddwl, ac yn y blaen, ac wrth gysgu breuddwydiaf. Dyma brofiadau'i meddwl. Yn awr, pethau allanol yw'r pethau hynny a all fodoli heb fy mod i (na neb arall dynol) yn cael un o'r profiadau uchod. Hynny yw nid wyf yn fy ngwrthddweud fy hunan wrth honni, dyweder, am gadair, y bodola er na chaf i na neb arall brofiad ohoni ar y pryd. O'r ochr arall y mae gwrthddywediad yn y gosodiad fod poen, er enghraifft, yn bodoli felly. Yn awr, a fedraf roi prawf rhesymegol o fodolaeth pethau allanol yr yr ystyr yma o'r term ? Cred Moore y medraf. Gwn fod y gadair yma'n bodoli, ac fe ddilyn fod un peth allanol beth bynnag yn bodoli. Neu daliaf fy llaw chwith i fyny a dweud Dyma un llaw", ac yna fy llaw ddeau Dyma law arall Dyma ragosod- iadau, ac oddi wrthynt y tynnaf y casgliad canlynol, fod pethau allanol yn bodoli. Dyma brawf rhesymegol, sicr. (Yn yr un modd gallaf brofi fod pethau allanol wedi bodoli yn y gorffennol, canys cofiaf yn awr i mi godi fy llaw i fyny, a gwn fod hynny'n wir.) Ond nid ydych wedi profi'n rhesymol eich rhagosodiadau." Naddo, medd Moore, ac ni allaf. This [proof], of course, I haven't given and I do not believe it can be given if this is what is meant by proof of the existence of external things, I do not believe that any proof of the existence of external things is possible." (t. 29). Ond ni newidia hyn ddim ar y prawf a roddwyd. Fe erys ef canys er na allaf brofi'n rhesymegol y bodola fy llaw, gwn ei bod yn bodoli, ac fe wyddoch chwi ei bod yn bodoli. Fe wyddoch fod y rhagosodiad yn wir, er na allaf ei brofi. Dyma felly yr unig brawf o fodolaeth pethau allanol sydd yn bosibl. Y mae'n amlwg fod llawer mwy i'w ddweud ar y mater hwn cyn tewi o bob beirniad. Nid wyf yn glir fy hunan pa fodolaeth a brofwyd yma gan Moore. Ai'r llaw weladwy ynghyda'i phriodol- eddau synhwyrol ? Nid wyf yn sicr. Ond teimlaf yn sicr o un peth, fod Moore yn iawn wrth ddweud mai dyma'r unig fodd i brofi bodolaeth pethau allanol. Gorffwys pob prawf o'r fath yn y pen draw ar fy ngwybodaeth uniongyrchol o fodolaeth cadeiriau, dwylo, cyrff ac yn y blaen, ac nid oes prawf rhesymegol o'r wybodaeth sicr hon i'w gael nac eisiau'r fath brawf ychwaith. R. I. AARON.