Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Talwyd llawer o sylw yn 1939 i athroniaeth Hume gan wahanol gymdeithasau athronyddol oblegid ei bod yn ben deucanmlwydd wedi cyhoeddi'r Treatise of Human Nature. Trefnasai Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion i ddathlu'r amgylchiad drwy grynhoi gweithrediadau'r Gynhadledd Flynyddol yng Ngholeg Harlech, Medi 26-29, o gwmpas y pwnc "Athroniaeth David Hume o safbwynt Heddiw," a pharatowyd rhaglen dda a diddorol i drin yn gynhwysfawr wahanol agweddau iddo. Ond er mawr siom i bawb ohonom, daeth yn ddyddiau'r drin yr adeg hynny; cymerodd adrannau o Brifysgol Lerpwl feddiant o Goleg Harlech, ac fe'n gorfodwyd i dynnu'r gynhadledd yn ôl o dan yr amgylchiadau. Hyderwn yn gryf y daw cyfle'n fuan i ailgychwyn ar waith y gynhadledd flynyddol, ac y mae'n gysur cryf i ni wybod y cyhoeddir Efrydiau Athronyddol 1940 ac na adewir gwaith yr adran yn gwbl ddi-dyst yn y flwyddyn honno. NODIAD D.J.J.