Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEFNDIR ATHRONIAETH SYR HENRY JONES I. Bu farw Syr Henry Jones ychydig dros ugain mlynedd yn ôl, ac ymnewidiodd athroniaeth gymaint yn y cyfamser fel nad yw'r prob- lemau a oedd bwysicaf yng ngolwg yr hen athronwyr yn cynhyrfu ond ychydig iawh ar feddyliau athronwyr heddiw. Cyfododd cenhedlaeth o athronwyr nad adwaenant mo Hegel nac idealaeth absolwt, ac y mae'r iaith a lefarai'r hen idealwyr bron yn gwbl anghyfiaith iddynt. Nid yw'n rhyfedd, gan hynny, na cheir yn holl lenyddiaeth athron- yddol y dydd ond cyfeiriadau prin ac anaml iawn at Syr Henry Jones a'i waith, a byddai'n gyfreithlon casglu oddi wrthynt hwy mai ychydig iawn o werth parhaol a berthynai i'w athroniaeth neu, yn wir, i holl athroniaeth yr ysgol a gynrychiolai. Y mae'r mudiadau athronyddol a gychwynnodd fel adwaith yn erbyn dysgeidiaeth idealaeth absolwt wedi arwain amryw o athronwyr ifainc y cyfnod i safbwynt mor drwyadl empeiraidd a ffenomenyddol nes peri iddynt anwybyddu llawer o broblemau mwyaf cynhyrfus athroniaeth diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau hon, ac ymwrthod yn llwyr ag iaith ac ymadrodd yr athroniaeth honno. Ond, hyd'yn oed yn nyddiau anterth idealaeth absolwt, prin y cyfrifid Syr Henry Jones mor bwysig fel meddyliwr â T. H. Green, neu Edward Caird, F. H. Bradley, B. Bosanquet a Pringle'-Pattison. Ffynnai barnau gwahanol iawn am wreiddioldeb ei allu a gwerth ei athroniaeth ond cytunai pawb ei fod yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod, a hynny ar gyfrif effeithiau ei waith fel athro ar feddyliau ei ddisgyblion a'i gyd-ddinasyddion. Clywais fod y diweddar John Oman wedi datgan ei farn mai pregethwr oedd Syr Henry Jones ac nid athronydd, ac mai pregethwr a fu drwy gydol ei yrfa yn ei gadeiriau athronyddol. Arferai J. S. Mackenzie, ar y llaw arall, feddwl yn uchel iawn ohono fel athronydd, a chydnabu fod ei gasgliadau damcaniaethol ef ei hun am natur y cyfanfyd yn perthyn yn agosach i'r safbwynt a eglurwyd gan Henry Jones yn ei Faith that Enquires nag i waith unrhyw feddyliwr arall. Drachefn, gwn y disgrifiai J. H. Muirhead ei waith ei hun fel cynnyrch journeyman o'i gymharu â phrif weithiau Syr Henry Jones, a chyfeiriai Edward Caird ato fel un o athronwyr gorau'r cyfnod. Yn gwbl i'r gwrth- wyneb, clywais un o'r realwyr newydd yng nghanol afiaith cyntaf y gwrthryfel yn erbyn idealaeth, yn cyfeirio ato fel yr hen ffŵl hwnnw gan ddangos yr anpddefgarwch a oedd mor nodweddiadol o'r realaeth newydd ar y dechrau, a mynegi mewn geiriau mwy grymus na chwrtais mai peth dwl a diwerth ydoedd holl ddysgeidiaeth