Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYDDYS bod A. N. Whitehead yn mynegi'n fynych 'yn ei weithiau faint ei ddyled i Blaton, ac y mae'n amlwg fod i'r ddau lawer o nodweddion tebyg. Yn wir, temtiwyd rhai ysgrifenwyr i esbonio'r hen athronydd yn nhermau'r athronydd diweddar. Gwiw yw inni gofio, serch hynny, fod mwy na dwy fìl o flynyddoedd yn gorwedd rhyngddynt, a bod perigl colli golwg ar y cynnydd a'r cyfnewid a fu mewn athroniaeth yn y cyfamser, os denir ni'n ormodol gan eu tebygrwydd i anwybyddu rhai gwahaniaethau sylfaenol. Nid gwaith anodd ydyw nodi rhai o'r pethau sy'n gyffredin iddynt. Y maent ill dau yn fathemategwyr, a chafodd y diddordeb hwn ei ddylanwad ar eu syniadau ynghylch trefniant a chyfansoddiad y cyfanfyd. Eto, y mae llunio cosmoleg, a gais osod holl drefn pethau ar seiliau cadarn, metaffisegol, yn elfen hanfodol yn athroniaeth y ddau. Myn Whitehead, ymhellach, y dylid ceisio dehongli profiad yng ngolau synnwyr cyf!redin.1 Cyfeiliornad yw'r ddeuoliaeth a ddatod- odd yr undod hanfodol sydd rhwng corff a meddwl. Ni ellir eu hysgar. The philosophy of organism abolishes the detached mind."2 Effeithia ein cyflwr corfforol yn uniongyrchol ar ein hysmudiadau ac ar ein profiad meddyliol. Mwynhawn ein golwg ar fywyd am nad yw'n stumog yn ein poeni. Felly y datganodd Horas, bardd synnwyr cyffredin, mai gwyn yw byd yr athronydd, ond pan fo'n dioddef gan ddolur rhydd Agwedd meddwl debyg a bair fod Platon yn rhoi cyfran sylweddol o'r Timaeos (69d-89d) i ddisgrifio adrannau'r corff 11e y lleolir gweithrediadau teimlad a meddwl. Y mae dyn yn gyfan- sawdd o gorff a meddwl (neu enaid), ac effeithiant ar ei gilydd er da neu er drwg. Dyry'r ddau athronydd Ie amlwg i Derfyn fel amod Trefnu a daw'r cyfanfyd i fod, medd Platon yn y Philebos, trwy gymysgu'r ddwy egwyddor, y Terfyn a'r Annherfynol. Yn y Politeia (596c) y mae'n cymeradwyo'r crefftwr am ei fod yn gosod terfyn penodol i'w waith, ac yn anghymeradwyo'r artist nad yw'n parchu yr un terfyn ond yn gwneuthur planhigion a chreaduriaid byw, gan ei gynnwys ef ei hun, ac yn llunio daear a nef a duwiau a phob peth yn y nef ac yn Hades". Yr un egwyddor a geir yn y Politicos (г84d) yn athrawiaeth y peth canol (the mean), sydd i fesur y mwy neu'r llai. Hebddo, meddai, ni allai dim crefft fod, canys hebddo nid oes safon sefydlog. Yr un modd, dysg Whitehead fod pob achlysur digwyddol A yn 1 Process and Reality, tud. 68. a Ibid, tud. 77. PLATON AC A. N. WHITEHEAD