Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFUNDREFN FEDDYLIOL MORGAN LLWYD Mynegwyd y syniad cyffredin am Forgan Llwyd gan y Prifathro Thomas Rees (Cenadwri'r Eglwys a Phroblemarìr Dydd, td.45) pan ddywedodd Nid hawdd yw gosod ei ddysgeidiaeth ef, ddim mwy nag eiddo Cyfrinwyr eraill, mewn un math ar gyfundrefn." Dyma, yn ddiau, a deimlir yn gyffredin wrth ddarllen ei waith y tro cyntaf, eithr, os try neb at ei Weithiau1 yr eildro, cenfydd fod y farn hon yn gwbl anfoddhaus, ac yn ddyfarniad rhy frysiog o lawer. Gwaetha'r modd, ni ddarllenwyd nemor ddim ar ei waith ag eithrio Llyfr y Tri Aderyn, a hwnnw gan amlaf drwy orfod, fel un o destunau arholiad. Fel rheol, gorchwyl lled ddielw ydoedd hwn, oherwydd natur ang- hyffredin y maes. Heb wybod, bron, caiff yr efrydydd y profiad o wibio'n barhaus fel gwennol y gwehydd rhwng y modd a'r mater, rhwng gwychder ei ryddiaith ac arian byw ei feddyliau. I eraill, nid oed4, hyd yn ddiweddar, arweiniad o gwbl oblegid er godidoced ydoedd Rhagymadrodd y Prifathro J. H. Davies fel gwyntylliad o bob hanes a gaed amdano, ac am ei gyfnod, nid amcenid yno roddi un math o allwedd i'w gyfundrefn feddyliol. Yn wir er cael ambell, ysgrif wych (a anghofiwyd) yn ein cylchgronau, ni chafwyd nemor ddim hylaw arno tan ymdriniaeth ddigymar yr Athro W. J. Gruffydd, yn Llên Cymru (1926). Felly, gydag ychydig eithriadau dewr, ni wnaed cymaint â darllen ei holl weithiau hysbys. O'r rheini saif y Gair o9r Gair ar ei ben ei hun, canys ynddo ef y canfyddir cefndir mwyaf cyflawn ei feddwl. Yn ei eiriau ef ei hun, ni cheisiodd drafod yn Llyfr y Tri Aderyn namyn Dirgelwch yr Ail-enedigaeth yn y dwfr a'r tân ysbrydol sef paratoi'r Cymry i gyfarfod â'u Harglwydd cyn dyfod dydd diddymu popeth gweledig. Y mae'n llawn mor anodd gwneuthur Cyfrinydd cyflawn dwf ohono. Nid ydyw yn defnyddio na'r iaith na'r termau sydd yn gyffredin iddynt hwy, ac nid ydyw ychwaith yn bwrw ei feddyliau i'w moldiau. A bod yn fanwl, nid oes ganddo ddim o'u geirfa, ac ofer chwilio amdano'n sôn am Ysgol y Perffeithio (Scala Per- fectionis). Trais â'i waith fyddai torri tameidiau ohono i'w gwneud yn risiau yn yr ysgol hon, drwy fwrw ynghyd frawddegau yn dis- grifio brwydrau'r enaid, a gosod rhai ohonynt fel yn cyfateb i'r ris gyntaf, sef y Puro", eraill y "Goleuo ac yn olaf oll yr Uno Ar yr un pryd, y mae'n cwbl gytuno â hwy yn eu hanfodion, ond gwna hynny fel un yn byw mewn byd o'i waith ei hun ac nid fel efelychwr. Cyfrannwr ydyw ac nid dyledwr. lGweithiau Morgan Llwyd, Cyf. i. ii., 1899, 1908.-0honynt hwy y tynnir pob dyfyniad, oni nodir yn wahanol. Diweddarwyd yr orgraff, ond cadwyd ambell brif lythyren a fwriedir fel pwyslais.