Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU CRISTIONOGAETH A'R BYWYD DA. J. R. Evans, B.A., B.D. Gwasg Gomer, Llandysul, 1941. Pris 3/6. Y Ddarlith Davies a draddodwyd yn y flwyddyn 1938 a geir yn y gyfrol hon. Nid darlith i ysgolheigion y bwriedir i hon fod er bod yn hawdd canfod ffrwyth ysgolheictod ynddi. Hwyrach mai i ddiwinyddiaeth y perthyn y pwnc yn hytrach nag i athroniaeth, er y gellir dadlau'n ddigon teg mai rhan o faes athroniaeth yw moeseg. Yr hyn a geir yn y llyfr yw crynodeb syml a chlir o ddysgeidiaeth foesol yr Hen Destament a'r Newydd gyda phwyslais digon priodol ar gynnydd a datblygiad yr ymwybyddiaeth foesol yn y cylch crefyddol a ddisgrifir yn y Beibl. Yn y crynodeb hwylus hwn y mae prif werth y gyfrol ac y mae'r ffaith bod ail argraffiad wedi ymddangos yn awgrymu bod croeso i'r gwaith. Ond gresyn na fuasai'r awdur wedi gafaelyd yn y cyfle hwn i gywiro nifer o fân wallau a ddihangodd rhag ei sylw wrth baratoi'r argraffiad cyntaf. Heb fanylu ar y rheiny gellir galw sylw at rai pwysicach. Os oes gwerth mewn gosod termau gwreiddiol mewn llythrennau Cymraeg dylid gwneud hynny'n gywir. Nid yw praiitcs yn ffurf gywir (td. 133) y mae heb (yn lIe neb) ar dud. 162 yn tywyllu'r synnwyr, ac ni ddylai Antimoniaeth ar dud. 167 fod wedi cael pardwn dwbl. Tybed nad ydyw cywirdeb yn un o'r gwerthoedd sy'n teilyngu sylw'r moesegwr ? Er bod y llyfr, ar y cyfan, wedi ei ysgrifennu'r gryno, eto gallesid byrhau peth arno mewn rhai mannau er mwyn cael gofod i drafod rhai materion sydd naill ai heb gael sylw o gwbl neu heb gael sylw digonol. Beth a olygir wrth alw bywyd yn dcla ? Y mae'n wir mai cymundeb â Duw yn y berthynas fabol yw'r syniad Cristnogol am fywyd da, fel y dywed Mr. Evans, ond paham y gelwir ef yn dda, ac nid ef yn unig eithr dulliau eraill o fyw hefyd ? Y mae hwn yn gwestiwn anodd ond fe ddylid ei wynebu serch hynny a byddai'n fantais, hyd yn oed mewn llyfr byr fel hwn, pe dygesid y rhagdybiau a'r cynseiliau i'r golwg. Pe gwnelsid hyn byddai'n haws dygymod â rhai gosodiadau sy'n swnio fel haeriadau yn hytrach nag ymresymiadau- megis rhai o'r pethau a ddywedir am ragoriaeth ac am berffeithrwydd y foeseg Gristnogol. Y mae'r awdur yn hoff o bwysleisio bod y foeseg Gristnogol yn gynnyrch anochel y berthynas rhwng Duw a'r credadun. A ydyw gweithred a gyflawnir yn reddfol ac yn ddiymdrech yn weithred dda ? Am ba nifer o gredinwyr y gellir dywedyd eu bod yn gweithredu gyda chymaint o rwyddineb? Sut y gellir cyfryngu rhwng yr hyn y dylai'r Cristion delfrydol fod a'r hyn ydyw'r rhan fwyaf ohonom yn ein hymdrechion ffwdanus ? Dywed Mr. Evans na ellir cyrraedd perffeithrwydd y safon foesol yn ôl Crist yn y fuchedd hon. Onid yw hyn yn dod yn agos iawn at safbwynt Niebuhr ? Pa les sydd o wneud haeriadau mawr am ogoniant ac uchafiaeth y foeseg Gristnogol ac yna dynnu llawer o hynny'n ól trwy ddweud ei bod yn anymarferol ac anghyraeddadwy yn hyn o fyd ? Ai awdurdod meidrol ac amgylchiadol neu berthnasol yn unig sydd i'r foeseg Gristnogol ? A ydyw hynny'n ddigon o ysbrydiaeth i ddyn ? Dyma gwestiynau pwysicaf ein cyfnod ni ac nid yw'r awdur wedi ymgodymu â hwynt o ddifrif, er bod a wnelont â chraidd ei bwnc. Beth yw perthynas gwerthoedd a dyletswyddau yn y bywyd da ? Gall yr awdur ateb nad oedd ganddo ofod i drin materion trymion fel y rhain ac y mae grym mewn ateb o'r fath. Ac eto byddai'r meddwl rywfaint yn esmwythach pe bai'r awdur wedi cyfeirio'n glir,