Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

vn drefnus ac yn fwy pendant, at rai o'r materion hyn a'u tebyg. Rhag gadael camargraff dylid dweud wrth orffen fod y llyfr yn un clir, cryno a darllenadwy, a bod ynddo grynodeb digon buddiol o ddysgeidiaeth foesol yr Ysgrythurau. Aberystwyth. HERBERT MORGAN. MORALITY AND FREEDOM IN KANT gan W. T. JONES. Rhydychen, 1940: tt. 175. Pris8/6. Prawf da o ragoriaeth llyfr ar un o'r meddylwyr mawr yw ei fod yn dyfnhau ein hedmygedd o'r meddyliwr hwnnw. Llwydda gwaith Mr. Jones i wneud hynny. Dyry i ni olwg newydd ar amlochredd syniadau Kant a'r modd y mae ef wedi rhagweld y prif feirniadaethau ar ei waith ac awgrymu ffordd i'w cyfar- fod, yn ogystal â dirnad llawer o'r ffyrdd a gymerth meddylwyr diweddarach i ddatblygu ei syniadau. Cyflwyna Mr. Jones ei ddehongliad yn neilltuol o eglur a threfnus. Ceir mwynhad esthetig o ddarllen y llyfr gan fod yr ym- resymiad yn dilyn mor ddestlus o baragraff i baragraff. Arddengys Mr. Jones wybodaeth drylwyr iawn o weithiau Kant a'r ysgrifeniadau ysgolheigaidd niferus sy'n ymdrin â hwy. Mae ei waith ef ei hun yn gyfraniad gwerthfawr i'r astudiaethau hynny, ac, i raddau llai efallai, i foeseg bur. Problem Kant, yn ôl yr awdur, yw cysoni'r gred ym mhenderfyniaeth naturiol pob peth â'r ymdeimlad o gyfrifoldeb a rhyddid. Osgoi'r broblem a wna'r ddeuoliaeth a dybia fod yr hunan sy'n gyfrifol yn wahanol i'r hunan a ymdrecha yn y byd sydd ohoni mewn amser a gofod. Er i rai briodoli safbwynt felly i Kant, hanfod yr agwedd Feirniadol (ceir llythyren fawr pan ddefnyddir y gair hwn yn dechnegol i ddynodi Kritik Kant) yw mai yr un person sydd yn rhydd ac wedi ei benderfynu. Freedom and necessity are necessarily united in the same person (tud 13). Pwysleisir mai achos yw'r ewyllys ac mai anfynych y synia Kant am achos rhydd fel y gallu i newid pethau mewn ffordd na ddilyn o'r hyn a ddigwyddoddd eisoes. Nodwedd yr ewyllys, o'i chymharu ag achosion eraill, yw mai meddwl yn troi yn ymarferol yw. What distinguishes the will is that it is psychical and not physical (tud. 27). Cyfer- bynnir yr ewyllys hefyd ag ymateb peiriannol o'r eiddom fel dylyfu gên yn ogystal â gweithred sy'n codi, yn debyg i ymateb ideo-modur, o ddymuniad nas cysylltwyd â dymuniadau eraill. Mae'r rheswm ar waith mewn ewyllysio gwir. Awgryma hyn y ffordd o drafod problem cyfrifoldeb drwy uniaethu rhyddid a gweithred yn codi o fath neilltuol o feddwl. Pwysleisir nad ansawdd y canlyniadau allanol a ddilyn ein bwriadau sydd yn cyfrif mewn moesoldeb. Byddem yn llawn- gyfrifol am fwriadau na lwyddwyd i'w sylweddoli. Nid ar y gallu i newid pethau y dylid craffu gan hynny, ac nid yw o bwys fod y meddwl a phob peth arall yn dibynnu ar achosion naturiol. Ansawdd y meddwl a'i gwna'n rhydd. Ymdrinia Mr. Jones â thair ffordd o drafod y broblem o'r safbwynt hwn. (1) Rhyddid fel ffug, athrawiaeth Vaihinger, sef athrawiaeth als ob. Ond cymhariaeth ac nid ffug a ddynodai Kant wrth yr als ob. (2) Rhyddid fel y syniad o derfyn (limit), sef dehongliad H. Cohen. Ond mae'r syniad hwn am y diamod yr un mor oblygedig ym mhob digwyddiad. Yn wir, y gyfres ac nid digwyddiadau arbennig sy'n rhydd yn yr ystyr yma. Nid yw o bwys gan hynny i'r moesegwr. Diau fod Kant yn cydnabod na allwn ni sylweddoli gofynion moesol yn llawn, ond priodola hynny i wendid ein natur ac nid i resymeg. Mae rhai o'n gweithrediadau yn foesol dda. (3) Rhyddid fel cynghanedd, sef dehongliad Baumgardt.. Yr oedd Kant yn gyfarwydd â'r