Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE REPUBLIC OF PLATO. Translated with Introduction and Notes by FRANCIS MACDONALD Cornford. Clarendon Press, Oxford, 1941. tt. xxviii a 356. Pris 7/6. Y PETH mwyaf arbennig ynglyn â'r cyfieithiad hwn yw ei fod wedi ymddangos o gwbl. Nid bychanu'r gwaith yw ein hamcan wrth ddweud hyn, ond mawyrgu dewrder a defosiwn y cyfieithydd a'r cyhoeddwyr yn dyfalbarhau gyda'r gorchwyl mewn amserau mor anodd. Nid oedd ganddynt y symbyliad o gyfieithu llyfr am y tro cyntaf i'r Saesneg a lledaenu gwybodaeth hollol newydd, oherwydd nid oes braidd un o'r clasuron Groegaidd wedi ymddangos mor fynych mewn cyfieithiad ym Mhrydain, a llawer o'r cyfieithiadau yn rhai purion. Sicr yw fod y cyfieithydd yn credu, gyda llawer ohonom, fod Platon vn un o feddylwyr sylfaenol yr oesau, ac felly yn hawlio cael ei gyfieithu o bryd i bryd i briod-ddull y cyfnod fe welir felly lawer Cornford i ddyfod, pob un yn ceisio dehongli, yn hytrach na chyfieithu, ar gyfer anghenion y dydd. Mae'n liawdd dangos fod y cyfieithiad yma wedi ateb angen, oherwydd, er mawr syndod i bawb, fe werthwyd ar unwaith bob copi a ddaeth o'r wasg, a bu rhaid ail argraffu yn ddi-oed yn wir, methodd sawl llyfrgell golegol â chael copi o'r argraffiad cyntaf. \Vrth ddarllen y gwaith, fe gyfyd yn naturiol i'r meddwl yr hen gwestiwn, beth yw cyfieithiad a beth yw'r gwahaniaeth rhyngddo ac aralleiriad. Fel y dywedais uchod, naturiol yw i gyfieithydd gwaith mawr Platon wneud dehong- liad, yn hytrach na mynegiant llythrennol, yn brif amcan. Gallwn yn hawdd fen- tro'r ddamcaniaeth bod rhyw fath o symudiad o gyfieithiad i ddehongliad ac o ddehongliad i aralleiriad. Os felly, yn yr ail restr y bwriada Cornford osod ei waith. Dywed Some authors can be translated almost word for word. The reader may fairly claim to be told why this method cannot do justice to the matter and the manner of Plato's discourse. In brief, the answer is that in many places the effect in English is misleading, or tedious, or grotesque and silly, or pompous and verbose,' ac hefyd, This version. aims at conveying to the English reader as much as possible of the thought of the Republic in the most convenient and least misleading form'. Pe byddai Cornford wedi galw'r gwaith yn version', ac nid 'translation', osgoi a wnâi lawer o'r feirniadaeth sydd yn ei wynebu yn awr. Gwelir yn eglur fod y gwaith yn disgyn o fod yn gyfieithiad dehonglol i fod yn aralleiriad dehonglol y foment y mae Cornford yn gadael allan frawddegau ac yn wir adrannau cyfain. Gall y cyfieithydd ddehongli heb wneud hyn. Ceir esiampl ddao eithafon cyfieithiad llythrennol ac aralleiriad diesgus yn y rhagair, tudalen vi. Dywed, The unfortunate effect of a too literal translation may be illustrated by some extracts from the Loeb edition This then, I said, if haply you now understand, is what you must say I then meant, by the statement that of all things that are such as to be of something those that are just themselves only are of things just themselves only, but things of a certain kind are of things of a certain kind." With the help of the context and some explanatory notes, the reader, it is true, will gather that the sense of this dark saying is as follows This, then, if you understand me now, is what I meant by saying that, of two correlative terms, the one is qualified if, and only if, the other is so Nid oes neb yn awyddus i amddiffyn y cyfieithiad cyntaf, ond anodd credu nad yw'n bosibl, gan ddefn- yddio crefft y cyfieithydd, fyned yn agosach i ddull y Groeg nag yn yr ail gyfieithiad. Esiampl arall o benrhyddid Cornford yw ei arfer o adael allan adrannau cyfain o'i ddewis ei hun. Un o'r pethau cyntaf a wna y rhai sy'n hyddysg yn y llyfr yw ceisio gweled sut y. mae Cornford yn trin yr adran anodd ac adnabyddus sy'n ymwneud â'r Rhif Santaidd. Ond wele mae'r