Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

adran yn gwbl ar goll, a nodyn ar waelod y ddalen, The extremely obscure description of this number, which has been variously interpreted, is omitted.' Ceir yr un mympwy ynglvn â'r testun. Dilyn testun Burnet y mae ar y cyfan, ond fe ddewis adael y testun hwn ar brydiau, heb unrhyw rybudd nac esboniad. Mae'r rhagymadrodd yn gynnil ac yn ysgolheigaidd, fel y gellid disgwyl gan un fel Cornford. Ceir nodiadau byw ac effeithiol yn blaenori gwahanol benodau'r llyfr ac wrth droed y ddalen. Nid cynnwys y gwaith yma yn unig sy'n ddiddorol. Yr oedd Platon nid yn unig yn athronydd holl-bwysig, ond hefyd yn grefftwr llenyddol, ac un diffyg mawr yn y cyfieithiadau blaenorol yw eu methiant mewn ffurf ac arddull. Amcana Cornford newid hyn, In quality, Plato's style rises and sinks with his theme, ranging from the tone of ordinary conversation to an almost lyrical eloquence. I have tried to reflect these modulations, while keeping to a lan- guage 'with some claim to be normal English, not too obviously of any parti- cular date, and such as a cultivated person may read without discomfort.' Credaf fod Cornford wedi llwyddo yn hyn o beth o'i gymharu â'i ragflaenwyr, eto heb gyrraedd yr uchelfannau. Er gwaetha'r diffygion hyn i gyd, erys mwynhad a lles i'r sawl a bryno ac a ddarlleno'r llyfr hwn. Bangor. W. MOSES Williams. OUR KNOWLEDGE OF GOD, gan JOHN Baillie, D.Litt., D.D., S.T.D. Oxford, 1939, tt. ix, 263. Pris 8/6. Athro mewn diwinyddiaeth ym mhrifysgol Edinburgh yw awdur y traethawd gwych hwn ar berthynas Duw a'r enaid. Trefna'r awdur ei fater o dan y pum pennod (i) Confrontation with God, (ii) Ways of Believing, (iii) Is our know- ledge of God's Existence Inferential ? (iv) The Urgent Presence, (v) The Other who is Most Near. Ceir ganddo ddiwinyddiaeth gytbwys a chyfoethog ac wrth iddo ddadansoddi yn bennaf y traddodiad Lutheraidd ym Mhrotestaniaeth llwyddodd i osgoi llawer o eithafion cyfoes y traddodiad hwnnw. Dyma werth diwinyddol y gyfrol ac ni ellir ei orbrisio. Ond mewn traethawd o ymresymiad eithriadol glos ni ellir ond aros gyda'r rhannau athronyddol. Credwn fod o leiaf bedwar pwnc pwysig a ymdrinir â hwy yn feistrolgar, sef, 1. Perthynas naturiaeth a gras, 2. Beirniadaeth ar anffyddiaeth, 3. Ein sail am wybodaeth uniongyrchol o fodolaeth Duw, a 4. Perthynas Duw a'r addolwr. Diffinia'r awdur y profiad crefyddol fel aflonyddwch yr enaid a wynebir yn uniongyrchol gan Dduw. Â ymlaen i feirniadu'n ddeheuig ddiwinyddiaeth Barth fel un or-Gristganolog a wad hefyd wirionedd datguddiad naturiol. Gwerthwyneba Baillie unrhyw ddiwinyddiaeth a sylfeinir ar gredu yn llwyr lygredigaeth dyn. Cydymdeimla'n fawr â safbwynt Brunner a ddeil na chyll dyn yn llwyr y gynneddf ynddo a gyferchir gan Dduw — ei addressibility Ond ni wahaniaetha Baillie, megis Brunner, rhwng ffurf a chynnwys yr Imago Dei mewn dyn, am y cred fod yr ymgais i wahaniaethu yn codi o syniadaeth rhy faterol. I osgoi deuoliaeth ni fyn yr awdur fod gwahaniaeth absolwt rhwng rhesymoldeb a daioni gan fod y drwg drwy ei natur barasitig yn byw ar y da ac yn gwadu llwyr lygredigaeth dyn. Tybed, er hynny, a eill athroniaeth han- iaethol fel hon gymeradwyo ei hun fel sylfaen ddiogel i ddiwinyddiaeth realistig? Wrth geisio cymodi uwchfodaeth a mewnfodaeth Duw dilynir von Hügel ac ni chytuna Baillie fod gwahaniaeth hanfodol rhwng gwybodaeth naturiol o Dduw a gwybodaeth ddatguddiedig ohono. Yn unol â'i syniad organig am ddat-