Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wybodaeth hanfodol (existential) hon o Dduw fel goddrych yn ddialechtig pan gyfeiria diwinyddiaeth ac athroniaeth at Dduw yn y trydydd person. Yn groes felly i Ysgolwyr y Canol Oesau deil Baillie fod perthynas Duw a'r enaid yn faes priodol i ymresymu dirnadol a greddfol ac nid i ymresymiad disgwrs- iaidd. A ellir amddiffyn ymresymu dirnadol fel athroniaeth bur ? Ac oni awgryma cyffelybiaeth fesur o wybodaeth gasgliadol ? Eto i gyd, wyneba'r awdur y gwahaniaeth real rhwng perthynas dyn a Duw ac eiddo dyn a'i gyd-ddyn. Tra mae dynion eraill yn gwbl y tu allan inni, nid felly Duw. Gwrthyd Baillie dderbyn safbwynt y Barthiaid mai Un cwbl arall (Wholly Other) yw Duw. I ddynoliaeth gwbl lygredig yn unig y gallai hynny fod yn.wir. Dadl yr awdur yw fod Duw yn gwbl wahanol o ran rhif ond nid o ran natur. Ni fedr Duw fod yn llwyr y tu allan i ddyn a fedd allu creadigol ac Ysbryd Duw yn trigo ynddo. Yn erbyn Acwin a Chalfin deil Baillie na fedr dyn fod yn debyg i Dduw heb iddo gael rhan yn Ei Natur. Gwrìeir ymgais, felly, i gymodi uwchfodaeth a mewnfodaeth Duw yn nhermau gras a rhyddid personol. I ddisgrifio'r berthynas, serch hynny, termau'r meddwl crefyddol nid athron- yddol a ddefnyddia'r awdur, sef, 'a mysterious togetherness Mewn cyfriniaeth y dargenfydd gymodi uwchfodaeth a mewnfodaeth gan mai yno y canfyddir Per- sonoliaeth Duw yn ffynhonnell pob personoliaeth. Wrth gydnabod hawl foesol absolwt y Bersonoliaeth hon cywira Baillie bwyslais Otto ar numinousness y profiad crefyddol. Olrheinir yr hawl hon i Bersonoliaeth Absolwt (nid deddf amhersonol Kant) gan mai ymdeimlad o ddiolchgarwch i Berson a gaiff dyn wrth ymateb i'r hawl. Tra'n dygir yn hyn y tu hwnt i system o foeseg, oni ymedir yma ag ymresymu disgwrsiaidd ? Dadleuá'r awdur mai'r hyn a roes inni syniad am bersonoliaeth o gwbl oedd adnabyddiaeth a priori o'r Bersonol- iaeth Ddwyfol. Beirniada athroniaeth Domistaidd am y gwrthyd ganiatáu'r posibilrwydd o wybodaeth uniongyrchol o Dduw. O ganlyniad dioddefa oddi wrth wendid anthropomorffiaeth. Fel Kant dargenfydd yr awdur bob atribiwt dwyfol, a'r syniad am yr hyn a ddylai dyn fod, yn y Perffeithrwydd Dwyfol. Ond os trwy gyffelybiaeth a chasgliadau o'r creadurol y cawn ein gwybodaeth o Dduw yna, medd yr awdur, rhaid addef fod y sgeptig yn iawn. Eithr gofyn- nwn a ellir ffydd grefyddol heb ynddi o reidrwydd fesur o agnosticiaeth ? Ymhellach, tra medrwn osgoi anthropomorffiaeth yn ein profiad crefyddol a allwn osgoi hynny yn nialechtiaeth ein diwinyddiaeth a'n hathroniaeth ? Gor- fodir ni i ofyn eto onid cyfriniaeth wedi'r cwbl yw'r ffurf uchaf ar sacramental- iaeth ? A allwn, hefyd, gyda'n meddylddrychau organig heddiw barhau i dynnu gwahaniaeth hanfodol rhwng y naturiol a'r goruwchnaturiol ? Wrth sôn am rai o'r cwestiynau a gyfyd o ddarllen y traethawd meistrolgar liwn ni wnaethpwyd ond cyffwrdd â'i gyfraniad cyfoethog i athroniaeth crefydd ein dydd. Cymesur ei werth diwinyddol hefyd, am iddo ein gwaredu o eith- afion a mympwy llawer o ddiwinyddiaeth baniglyd y dydd. Aberystwyth. MANSEL JOHN. MIND AND DEITY. Gifford Lectures (Second Series) am 1940, gan JOHN Laird. Allen and Unwin, Llundain. 1941. Tt. 322. Pris 10/6. At ei gilydd gellir dywedyd mai beirniadaeth ar Theistiaeth Bersonol yw'r gyfres hon o ddarlithiau Gifford. Mynych y gwnaed Idealaeth yn rwndwal i'r math yma o Theistiaeth, ac, wrth gwrs, fel Realydd, ymwrthod â'r sylfaen honno a wna'r Dr. Laird. Ceir ganddo i gychwyn drafodaeth ar ddilysrwydd Idealaeth. Dwg gerbron y Prawf Ontologaidd o Dduw, ac fe'i gwrthyd, gan ddilyn, i bob pwrpas, ym- resymiad Kant, nid amgen, nad yw synied fod gwrthrych yn bod yn chwanegu