Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

athrawiaeth ran mor bwysig yn llyfr cyntaf y Treatise ag a chwaraeir gan Gydymdeimlad yn y rhannau moesegol. Ni allwn, trwy reswm, esbonio'r un nodwedd sylfaenol o'n profiad megis gwir natur ddirgel achos ac effaith, canfyddiad byd allanol real, prydferthwch, gwybodaeth o dda a drwg. A nid amheuaeth mo'r unig ddewis a adewir inni ond, yn hytrach, ymddiriedjieth mewn profion ymarferol". Nid yw Hume yn amau bodolaeth y gwrthrychau hyn ond yn unig amau posibilrwydd eu profi'n rhesymol. Yn yr un ffordd, dadleua Kemp Smith nad yw Hume yn amau realiti'r Hunan. Cododd y ffordd gyfeiliornus hon o feirniadu Hume trwy bwyslais yr esbonwyr ar ddadleuon Hume yn erbyn "symlrwydd" yr Hunan fel bodolaeth haniaethol. Y'gwir yw, yn ôl yr esboniad newydd, mai cymhleth yw'r Hunan i Hume a chanddo "nodweddion a'i galluoga ef i feddu'r hunaniaeth lai hynny a geir hefyd mewn organaethau naturiol a chymdeithasol." Y peth tebycaf i'r Hunan o ran natur ei hunaniaeth ydyw gwladwriaeth a all newid ei helfennau "syml" drosodd a throsodd ond a geidw o hyd y berthynas" rhyngddynt. Cydnebydd Kemp Smith fod anghysonderau mawr yn Hume ond fe esbonia'r rhain trwy gyfeirio at y ddwy ffynhonnell i'w athrawiaethau, sef, Newton a Hutcheson. Ac yntau'n ysgrifennu dan ddylanwad meddyleg fecanaidd Newton a'i bwyslais ar elfennau syml, y mae Hume yn pwysleisio 'atyniad fel yr egwyddor i'w cysylltu. Ar y llaw arall, y mae hefyd yn ddyledus i feddyleg fywydegol Hutcheson ac amlwg yw y cred Kemp Smith mai dylanwad yr olaf yw'r iachaf ar Hume. Dibynna ymdrech Kemp Smith i ryddhau Hume o'r cyhuddiad ei fod yn amheuwr yn hollol ar y lIe canolog a rydd yn ei esboniadaeth ar Hume i Gredu o'i gyferbynnu â Rhesymu." Gall ddweud bod Hume yn credu ym modolaeth gwrthrychau allanol trwy bwysleisio'r gwahaniaeth rhwng gwrth- rychau uniongyrchol a gwrthrychau anuniongyrchol, h.y. rhwng argraffiadau" a gwrthrychau credu." Yn yr un ffordd, gall. ddweud nad cysondeb" yn unig sy'n esgor ar amgyffrediad achos ac effaith ond yr ymdeimlad o reidrwydd a gyfyd yn naturiol" ynom. Ceisia Kemp Smith ddangos nad mater o fywiog- rwydd argraffiadau yn unig ydyw credu ond safbwynt arbennig'a garia'r meddwl heibio i'r gwrthrychau uniongyrchol sy'n newid a darfod at fyd o wrthrychau annibynnol, arhosol (t. 444). Dywed ymhellach fod natur yn ein gorfodi i farnu gyda'r un rheidrwydd absolwt ag y'n gorfodir ni i anadlu a theimlo." Os-ydyw hyn i gyd i olygu rhywbeth mwy na'r gosodiad diystyr credwn am ein bod yn credu rhaid yw i Kemp Smith ddangos bod Hume yn gwneud ymdrech i ddangos beth a ddylid a beth na ddylid ei gredu. Ni wna hyn. Er mor gyffredin yr 'apêl at natur' yn nyddiau Hume, fel y dangosodd Hendel yn ei lyfr yntau ar Hume (llyfr sydd mewn llawer ystyr yn rhagflaenydd i lyfr Kemp Smith) y rhan fynychaf nid yw ond cyffesiad o anwybodaeth. Nid oes unrhyw fanylder yn nhriniaeth Kemp Smith ar y mater pwysig hwn. Dywed (t. 388), pan sonia Hume am rywbeth a ddylid ei gredu, defnyddia'r gair dylid' mewn ffordd hollol naturiaethol y pethau a ddylid eu credu, pethau ydynt y mae Natur eí hunan yn eu pwyntio allan inni. Yn y gwraidd, fel cre- doau naturiol, nid oes dewis gennym ond eu derbyn". Dyfynna eiriau Hume yn yr Enguiry yn dangos mai diffrwyth hollol yw'r ymgais i ddiffinio'r gwahan- iaeth rhwng "fiction a gwrthrych credu. Rhyw ymdeimlad gwreiddiol a gyn- hyrcha gred nas gellir ei ddisgrifio mwy na'r ymdeimlad o oerni neu o dymer ddrwg" (t. 462). Anodd yw gweld bod yr esboniad yma ar Hume yn gwneud dim amgen na'i achub o blith yr amheuwyr a'i osod yn ôl ymhlith yr athronwyr dogmatig. Credodd y Rhesymolwyr yn anffaeledigrwydd Rheswm ond fe gred yr Hume a ddisgrifir gan Kemp Smith yn anffaeledigrwydd teimlad.