Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DHARMA A LOGOS. Dharma'r Bwddhyddion a logos y Stoiciaid a olygir wrth ddau derm y pennawd. Ond nid yw ffurf y pennawd yn golygu y gwneir ymgais i brofi cysylltiad hanesyddoll rhyngddynt, nac, o angenrheidrwydd, unrhyw debygrwydd metafiìsegoL Ceisir yn unig eu cymharu er mwyn arddangos rhai agweddau o ddatblygiad ac ymblygiadau yr hyn a elwir yn gyffredin yn grefydd neu ddiwinyddiaeth natur, ac yn bennaf yr agwedd honno y ceir ynddi'r ddamcaniaeth bod y bydysawd neu'r amgylchfyd o dan reolaeth deddf amhersonol. Y mae'r ddeddf hon yn agored i ddyn i'w deall, a thrwy ufuddhau iddi cred fod ganddo'r sicrhad ei fod yn cyflawni ei ddyletswydd fel bod moesol a rhesymol. Dwy ddamcaniaeth o'r fath yw dharma'r Bwddhyddion a logos y Stoiciaid, oblegid cynsail y ddwy yw'r gosod- iad o ddeddf amhersonol. Bydd cymharu'r ddau felly yn foddion i ddwyn i'r golwg rai o'r anawsterau a'r ymblygiadau a berthyn i gyfundrefnau athronyddol o'r math hwn, y rhai, ar yr un pryd, a ddaeth i fod er mwyn bodloni dyheadau crefyddol. Ac y mae rheswm chwanegol tros wneud y gymhariaeth hon rhwng dharma a logos, sef y tebygrwydd trawiadol sydd rhwng y ddwy drefn o foeseg asetig a seiliwyd ar y ddwy ddamcaniaeth. Y mae'r syniad a gyfleir gan y gair dharma (neu dhamma yn y testunau Pali) mor hen â llenyddiaeth y Vedâu. Yr oedd trefn reol- aidd digwyddiadau natur, megis cwrs digyfnewid yr haul a'r lloer a chylchrediad y tymhorau, eisoes wedi ysbrydoli dyn i synied, er yn aneglur, am ddeddf ddigyfnewid yn llywodraethu y cyfnewidiadau rheolaidd hyn. Yn y Rig Feda gelwir y drefn neu'r ddeddf hon yn rita, gair a ddaeth i olygu hefyd y trefnusrwydd a oedd yn anhepgor yn y seremoniau aberthu, ac estynnwyd y gair ymhellach i olygu deddf, iawn neu wirionedd yn y drefn foesol. Ac fel mai Agni, duw'r tân, oedd gwarcheidwad y drefn aberthu, felly Varuna, duw hollwybodol y nefoedd, oedd cynhaliwr y drefn foesol. Yn yr ystyr olaf, ac yn neilltuol mewn perthynas i Varuna gwelwn y gair rita yn rhoddi lle mewn rhai adrannau o'r Rig Veda i'r gair dharman, y ffurf Vedig am dharma'r Sanscrit clasurol. Deillia'r gair olaf o'r ferf dhri a olyga'n gyffredinol dal naill ai'n drosiadol, neu'n anhrosiadol yn yr ystyr o ` barhau neu 'ymaros'. Y mae'r gair dharma felly yn addas at arwyddo'r syniad o drefn sefydlog yn natur, yng nghylch anian yn ogystal ag yng nghylch moes. 1 Nid yw'n llwyr amhosibl, o safbwynt hanes, fod Bwddhaeth wedi dylanwadu ar feddwl Groeg. Y mae arysgrifau Asoka (tua 250 C.C.), er enghraifft, yn sôn am genhadon Bwddhaidd yn cael eu danfon mor bell i'r gorllewin â'r Aifft, Syria, Macedonia ac Epeiros. Ond o ochr y Groegiaid nid oes prawf y gwyddent lawer yn bendant am athroniaeth yr India, ar wahân, feallai, i gyfeiriad at ryw sect a elwid yn Gwmnosophistiaid gan Blutarch (Alexander, 64). Am y profion bod sefydlwyr Groegaidd yn yr India wedi dod i gyffyrdd- iad a'r Bwddhyddion, gweler Radhakrishnan Eastern reìigions and western thought, t. 156.